Galw am gofeb heddwch yng Nghaerdydd i Iolo Morganwg

Llun artist o'r cyfnod o Iolo Morganwg
- Cyhoeddwyd
Yn Rhagfyr 2026, bydd hi'n ddau canmlwyddiant marwolaeth Iolo Morganwg, sylfaenydd Gorsedd Cymru, neu ar y pryd, Gorsedd y Beirdd.
I gyd-fynd â hyn, mae Gorsedd Cymru yn galw am gofeb genedlaethol yng Nghaerdydd i gofio am y gŵr o'r 19eg ganrif oedd yn ddysgedig mewn sawl maes.
Mae datganiad gan yr Orsedd yn nodi: "Rydym yn hyrwyddo apêl i godi cofeb i ddathlu'r egwyddorion sy'n greadigol i'r Orsedd a sylfaenwyd ganddo.
"Yn hytrach na chodi cerflun efydd i unigolyn, y dyhead yw comisiynu darn o gelfyddyd a fydd yn ymateb trawiadol i'r alwad sy'n gonglfaen i'n seremonïau, sef yr ymadrodd 'A Oes Heddwch?'"
Maent hefyd wedi cyhoeddi eu bod mewn trafodaethau â chyngor dinas Caerdydd o ran ceisio lle addas i'w gosod.
Ac yn ôl yr hanesydd Marion Loeffler, mae'n "syniad ardderchog – mae angen rhywbeth i gofio Iolo Morganwg fel gweriniaethwr, fel rhywun oedd yn awchu am heddwch, oedd yn byw mewn cyfnod o ryfel o 1792 tan 1815."
Pwy oedd Iolo Morganwg?
Roedd Iolo Morganwg yn gyfrifol am greu Gorsedd y Beirdd, ond mae hefyd yn cael ei ystyried fel un oedd wedi rhagweld fod angen creu sefydliadau fel y Llyfrgell Genedlaethol i warchod diwylliant y genedl.
Roedd Iolo Morganwg hefyd yn gyfrifol am gyfansoddi cerddi a llawysgrifau, ond mae academyddion y gorffennol wedi ei alw'n dwyllwr.
Ond yn y ddegawd ddiwethaf mae ei enw da wedi ei warchod gan astudiaethau newydd o'i waith.
Mae'n derbyn clod am ragweld y byddai angen sefydliadau cenedlaethol fel Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol ar Gymru i sicrhau goroesiad Cymru a'r Gymraeg.
Yn 2020 cafodd plac glas i nodi cyfraniad Iolo Morganwg ei dadorchuddio ar wal tŷ ym Mro Morgannwg lle cafodd ei eni yn 1747.

Cafodd y plac newydd ei ddadorchuddio ar wal y tŷ lle y ganwyd Iolo Morganwg
Ac mae cofeb i gofio cyfraniad Iolo Morganwg eisoes ym Mryn y Briallu, Llundain lle wnaeth yr orsedd cyntaf o feirdd gasglu dan ei arweiniad ar hirddydd haf 1792.

Mae cofeb i gofio cyfraniad Iolo Morganwg eisoes ym Mryn y Briallu, Llundain
Cofeb neu ysgoloriaeth?
Mae Marion yn cefnogi'r ymgyrch am gofeb ond hefyd yn cwestiynu a fyddai ysgoloriaeth yn enw Iolo Morganwg hefyd yn opsiwn.
Meddai: "Mae cofebau yn ffordd dda i arddangos pethau yn gyhoeddus a faswn i'n dweud falle cofeb ar ffurf aradr ym Mae Caerdydd oherwydd oedd Iolo wedi 'sgwennu cerdd ar roi cleddyf mewn i aradr neu offer amaethyddol er mwyn heddwch.
"Eto i gyd mae cerfluniau yn rhywbeth sydd yn dirywio, sydd yn statig ac mae ysgoloriaeth yn rhywbeth sydd yn cadw traddodiad yn fyw."
Yn ôl Marion byddai'n dda gweld "ysgoloriaeth i urddo Iolo fel bardd a hyrwyddo crefft traddodiadol Cymreig sy'n unigryw i Gymru sef crefft y gynghanedd".
Ychwanegodd y byddai ysgoloriaeth yn galluogi i fwy ddysgu crefft y gynghanedd mewn adrannau Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru:
"Mae gyda ni ddigon o adrannau Ysgrifennu Creadigol ar gael, er enghraifft, yn Aberystwyth lle mae beirdd enwog fel Eurig Salisbury yn addysgu'r grefft ac yn galluogi i bobl ifanc barhau â'r traddodiad sydd mor unigryw i Gymru."
Gwaddol Iolo Morganwg
Er mwyn gwireddu'r syniad o gael cofeb, mae'r Orsedd angen casglu £12,000 fel cam cyntaf.
Maent yn nodi eu diolch i'r diweddar Athro Geraint Jenkins am gefnogi'r syniad, gan gynnwys y rhodd nodedig o £2,000.
Fe ysgrifennodd Geraint y cofiant Y Digymar Iolo Morganwg sy'n olrhain ei fywyd a'i gyfraniad i fywyd y genedl.
Meddai Marion: "Roedd Geraint yn hoff iawn o Iolo Morganwg ac o bosib wedi ymchwilio iddo'n ddyfnach nac unrhyw un yn y byd."
A ydy Marion yn cytuno â galw Iolo Morganwg yn gymeriad 'digymar'?
"Roedd yn ddigymar oherwydd oedd Iolo yn gweithio mewn cynifer o feysydd, roedd yn fardd penigamp, roedd yn archwiliwr amaethyddol, roedd yn hynafiaethydd – fe oedd y cynta' i awgrymu Amgueddfa Genedlaethol i Gymru, ac oedd e hefyd wrth gwrs yn weriniaethwr, yn radical yng nghyfnod y chwyldro Ffrengig, felly yn hanes Cymru roedd e fel Renaissance Man ac yn ddigymar, yn wir."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 Awst