Dwy fedal arall i'r Cymry yn y Gemau Olympaidd yn Rio
- Cyhoeddwyd
Mae Elinor Barker wedi ennill medal aur fel rhan o dîm cwrso'r merched yn y feledrom yn y Gemau Olympaidd yn Rio.
Fe lwyddodd Elinor Barker, Laura Trott, Joanna Rowsell-Shand a Katie Archibald i guro'r Americanwyr a thorri record y byd.
Dyma'r tro cyntaf i'r ferch 21 oed gystadlu yn y Gemau Olympaidd.
"Beth mae pobl yn dweud ar adegau fel hyn? Mae'n anhygoel," meddai Elinor Barker.
Dywedodd bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai heriol i'r tîm am eu bod wedi methu a chipio'r fedal aur ym mhencampwriaethau'r byd a'u bod am gyfnod wedi colli eu record byd:
"Doeddwn i byth yn meddwl y byddai hyn yn digwydd. Rhywsut mi ydyn ni wedi llwyddo i godi ein gêm yn y chwe mis diwethaf a nawr mae gyda ni record y byd a medal aur yn y Gemau Olympaidd."
Yn ddiweddarach yn y noson fe enillodd Becky James fedal arian yn y keirin.
Doedd Becky James ddim yn y Gemau Olympaidd yn Llundain ac mae wedi wynebu problemau iechyd ac anaf i'w phenglin.
Roedd ei chariad, y chwaraewr rygbi, George North yno yn ei gwylio.
Dywedodd: "Mi oeddwn i wir eisiau medal. Dw i methu coelio fod hyn wedi digwydd. Mi ddes i yma yn teimlo'n dda a dw i wrth fy modd gyda keirin ac yn caru rasio."
Ychwanegodd: "Mae'r noson yma wedi bod mor arbennig. Mae 10 o fy nheulu yma. Dyw mam erioed wedi bod ar daith awyren hir o'r blaen.
"Dw i wedi cael cymaint o gefnogaeth gan Seiclo Prydain. Mae wedi bod yn ddwy flynedd anodd a fydden i ddim wedi gallu gwneud hyn heb yr help dw i wedi cael gan bawb."
Mae hynny yn golygu fod y Cymry wedi ennill saith medal yn y gemau hyd yn hyn, yr un nifer a'r Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.