Tân yng nghlwb eiconaidd TJs yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
TanFfynhonnell y llun, SARA BELLANATO

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn delio gyda thân yn hen glwb eiconaidd TJs yng Nghasnewydd.

Cafodd y criwiau tân eu galw am 19.43 nos Sadwrn.

Dyw'r adeilad, ar Ffordd Clarence, ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Yn y 90au roedd bandiau fel Oasis, Manic Street Preachers, Green Day a Muse yn perfformio yno.

Mae rhai hefyd yn dweud mai yn TJs wnaeth canwr Nirvana, Kurt Cobain, ofyn i'w gariad, Courtney Love i'w briodi.