Penodi Ann Griffith fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae Ann Griffith wedi ei phenodi'n Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Cafodd y penodiad ei wneud gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, Arfon Jones, er bod gwrthwynebiad i'r penderfyniad gan y Panel Heddlu a Throsedd lleol.
Er bod y panel yn cydnabod fod gan Mr Jones yr hawl cyfreithiol i benodi Ann Griffith, nid oedd yr aelodau'n credu fod y swydd newydd wedi'i hysbysebu ac roedd ganddynt bryderon am "ddiffyg tryloywder".
Pryder arall y panel oedd nad oedd Ms Griffith wedi dweud os byddai'n sefyll o'r neilltu fel cynghorydd lleol fis Mai nesaf. Mae hi bellach wedi dweud na fydd hi'n sefyll eto fel cynghorydd er mwyn iddi ganolbwyntio'n llawn ar ei swydd newydd fel Dirprwy Gomisiynydd.
Mae Ms Griffith, 55 oed, yn gynghorydd Plaid Cymru ar Ynys Môn.
'Dysgu gwersi'
Mae Arfon Jones wedi ysgrifennu at y panel i'w hysbysu am ei benderfyniad. Wedi iddi gael ei phenodi, dywedodd Ann Griffith: "Roedd y panel yn brofiad siomedig ond rwyf wedi dysgu gwersi ohono.
"Rwyf wedi gwrando ar gyngor y panel ac wedi penderfynu sefyll o'r neilltu o fy swyddogaeth fel cynghorydd gyda Chyngor Ynys Môn yn yr etholiad nesaf.
"Rhaid i ni symud ymlaen fel tîm i helpu sicrhau y gall Heddlu Gogledd Cymru fod y gorau y gall fod ar gyfer ein pobl ac fe wnaf ddefnyddio fy sgiliau a fy mhrofiad ar gyfer hyn. Rwyf yn barod am y sialens sydd o fy mlaen."
Dywedodd Arfon Jones fod y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud a phenodi dirprwyon yn eglur: "Roeddwn wedi fy siomi nad oedd y panel wedi cytuno gyda fy newis, ond mae'r ddeddfwriaeth yn gwbl glir a phendant ar hyn. Y comisiynydd sydd â'r penderfyniad terfynol am benodi dirprwy.
"Wedi dweud hynny, fe wnes i ystyried barn y panel yn ofalus... cyn gwneud fy mhenderfyniad gyda phenodiad Ann.
"Rwyf yn parhau'n hyderus fod gan Ann fwy na digon o brofiad ar gyfer y swyddogaeth bwysig yma, ac rwyf yn bendant y bydd y panel, ymhen amser, yn dod i weld y manteision o'i chael fel fy nirprwy, ac y bydd hi'n gweithredu gydag anrhydedd ac ymroddiad."