Negeseuon Cymraeg Hitler

  • Cyhoeddwyd
Adolf Hitler

Wyddoch chi fod cyn-weithiwr siop 'sgidiau o'r Wyddgrug wedi ei garcharu am ddarlledu yn y Gymraeg?

Cafodd Raymond David Hughes ei roi dan glo am fradwriaeth wedi iddo ddarlledu propaganda ar ran y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn 1944.

Ar ôl gadael Ysgol Alun yn 15 oed aeth Hughes i weithio mewn siop 'sgidiau yn y dref cyn iddo ennill dyrchafiad a symud i Fangor i fod yn reolwr ar gangen o'r siop yn y ddinas.

Ond daeth y rhyfel i darfu ar fywyd y siopwr ifanc.

Roedd Hughes yn Sarjiant gyda'r Llu Awyr. Ar ôl tua dau ddwsin o gyrchoedd awyr llwyddiannus dros yr Almaen, ar 17 Awst 1943, cafodd ei awyren Lancaster ei saethu i'r ddaear.

Cafodd Hughes, a oedd newydd gael ei ben-blwydd yn 20 oed, a gweddill y criw eu dal a'u hanfon i wersyll Dulag Luft ger Frankfurt. Yno, daeth yn ddefnyddiol i'r Almaenwyr trwy gasglu gwybodaeth am ei gyd-garchororion. Cymrodd arno ei fod yn casglu gwybodaeth ar gyfer llenwi ffurflenni'r Groes Goch.

Ym mis Hydref 1943 cafodd ei symud i garchar arall yn Frankfurt gan bod yr Almaenwyr erbyn hynny yn amau fod Hughes yn rhybuddio ei gyd-garcharorion i gadw'n dawel.

Ond ar ddiwedd y flwyddyn honno, gan ddefnyddio'r enw John Charles Baker, cafodd gryn ryddid gan yr Almaenwyr a bu'n byw mewn moethusrwydd yng Ngwesty Auto yn Charlottenburg, un o faestrefi Berlin.

Tra roedd o yno mae'n debyg y gwnaeth o gytuno i ddarlledu propaganda cyfundrefn Hitler yn y Gymraeg.

Goebbels a grym y Gymraeg

Roedd Joseph Goebbels, Gweinidog Propaganda'r Drydedd Reich, yn ymwybodol o ddylanwad y cyfryngau torfol ac yn gwybod y byddai darlledu negeseuon yn y Gymraeg yn cyrraedd cynulleidfa newydd.

Roedd Joseph Goebbels yn gweld manteision y Gymraeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joseph Goebbels yn gweld manteision y Gymraeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Gan ddefnyddio enw ffug arall, Raymond Sharples, bu'n sgriptio a darlledu ar Radio Metropole. Roedd ei ddarllediadau Cymraeg rhwng Ionawr a Mawrth 1944 wedi eu hanelu at filwyr o Gymru oedd yn brwydro yn yr Eidal.

Roedd dau Albanwr yn gwneud gwaith tebyg gan ddarlledu mewn Gaeleg ar Radio Caledonia ac roedd hi'n bosib bod Hughes wedi cydweithio gyda'r cymeriad dadleuol hwnnw, William Joyce.

Cafodd Joyce, neu 'Lord Haw Haw' fel y daeth i gael ei adnabod, ei grogi am deyrnfradwriaeth (high treason) am ddarlledu propaganda'r Natsiaïd yn Saesneg yn ystod y rhyfel.

Yn ystod y cyfnod yr oedd Hughes yn darlledu roedd Berlin yn cael ei bomio yn gyson gan y Llu Awyr. Roedd y Cymro yn honni ei fod wedi manteisio ar y cyfnod ansicr hwn i ddifrodi eiddo Almaenig.

Mae'n debyg ei fod wedi colli ei ryddid a'i freintiau a'i anfon i wersyll carcharorion rhyfel yn ystod Gwanwyn 1944. Yno y buodd o cyn iddo gael ei ryddhau gan filwyr Rwsia yn Ebrill 1945.

'Lord Haw Haw', William Joyce, gafodd ei grogi am deyrnfradwriaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Disgrifiad o’r llun,

'Lord Haw Haw', William Joyce, gafodd ei grogi am deyrnfradwriaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Bradwr

Erbyn hynny roedd Hughes yn rhugl mewn Almaeneg a cafodd ei ddefnyddio fel cyfieithydd gan luoedd y Cynghreiriaid. Ond roedd swyddogion byddin Prydain yn amau o'r dechrau ei fod yn fradwr oherwydd graen ei lifrai milwrol a thystiolaeth bod milwr Almaenig wedi cael ei weld yn cario ei fagiau. Fyddai hynny ddim wedi digwydd petai'n garcharor rhyfel arferol.

Cyn iddo gael ei gludo yn ôl i Brydain cafodd ei arestio a'i gyhuddo o wirfoddoli i helpu'r gelyn tra'n garcharor rhyfel.

Ymddangosodd y Cymro o flaen Llys Rhyfel yng nghanolfan y Llu Awyr yn Uxbridge ym mis Awst 1945. Plediodd yn ddi-euog i 11 cyhuddiad o helpu'r gelyn ac o dderbyn cyflog gan y gelyn.

Cafodd ei ddyfarnu'n euog o bump cyhuddiad, tri ohonyn nhw yn gyhuddiadau a oedd yn gallu golygu'r gosb eithaf.

Penderfynodd y llys ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar gyda llafur caled. Cafodd y ddedfryd ei chwtogi i ddwy flynedd wedi iddo apelio yn llwyddiannus yn erbyn ei ddedfryd. Cafodd ei ryddhau o garchar enwog Dartmoor yn 1949.

Ar ôl y rhyfel daeth yn ddyn busnes llwyddiannus ac fe briododd ferch un o gyfarwyddwyr clwb pêl-droed Plymouth Argyle.

Bu farw yn Cheltenham yn 1999, gydag ychydig iawn o Gymry'n gwybod am ei hanes yn lledaenu negeseuon Hitler.

Treuliodd Raymond Davies Hughes gyfnod yng ngharchar Dartmoor yn Nyfnaint ar ôl i lys milwrol ei gael yn euog o deyrnfradwriaethFfynhonnell y llun, Chris Oakley
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Raymond Davies Hughes gyfnod yng ngharchar Dartmoor yn Nyfnaint ar ôl i lys milwrol ei gael yn euog o deyrnfradwriaeth