Dynes yn gohirio nofio o amgylch Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
NofioFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae ymgais dynes i fod y person cyntaf i nofio yn ddi-stop o amgylch Ynys Môn wedi cael ei ohirio, ar ôl iddi gael ei phigo gan sglefrod môr.

Fe gafodd Liane Llewellyn Hickling, 34 oed, o Bradford, ei thynnu allan o'r dŵr yn Afon Menai nos Fercher.

Roedd wedi dioddef adwaith alergaidd ar ôl cael ei phigo gan o leiaf chwech o sglefrod môr.

Cafodd ei thrin yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac mae bellach yn gwella yng Nghaergybi.

Roedd Mrs Hickling yn cychwyn o Moelfre fore Mercher ac wedi gobeithio cwblhau'r cwrs 70 milltir ( 112km ) mewn llai na 48 awr.

Gan ei bod yn dilyn rheolau nofio pellter hir, Cymdeithas Nofio Prydain, dim ond gwisg nofio, het a gogls oedd hi'n wisgo.

Dywedodd ei gŵr, Chris Hickling: "Fe gafodd ei phigo ddwy neu dair gwaith wrth iddi groesi Traeth Coch, ac eto pan aeth o amgylch trwyn Penmon.

"Fe ddioddefodd mwy o bigiadau yn Afon Menai, a dyna pryd ddaru ni benderfynu ei thynnu hi allan."

Ffynhonnell y llun, Liane Llewellyn Hickling

"Gall y pigiadau fod yn rhai cas iawn, ac rydym yn meddwl ei bod wedi cael adwaith alergaidd drwg. Mae'n mynd i gymryd ychydig o ddyddiau i wella yn llawn.

"Mae'n rhy gynnar i ddweud a fydd hi'n ceisio nofio eto."

Mae Mrs Hickling yn gweithio fel ffisiotherapydd gyda'r GIG, ac mae wedi bod yn codi arian ar gyfer bad achub newydd yr RNLI yn y Bermo.

Fel un o nofwyr pellter hir dŵr agored mwyaf profiadol y DU, mae Mrs Hickling wedi nofio ar hyd Llyn Windermere, Loch Lomond, Loch Ness, ac yn 2009 fe ddaeth i fod y drydedd ferch o Brydain i nofio'r Sianel ac ôl.

Fel rhan o'i pharatoadau ar gyfer y dyfroedd a llanw garw Môn, bu'n ymarfer o amgylch ynysoedd St Kilda yn yr Alban Hebrides Allanol ym Mehefin 2016.

Ffynhonnell y llun, Liane Llewellyn Hickling