Dau Gymro'n torri record Prydain am gneifio

  • Cyhoeddwyd
Cneifio

Mae dau Gymro wedi gosod record gneifio newydd Prydain yn ystod her yn Sir Ddinbych ddydd Gwener.

Fe gneifiodd Gareth Daniel ac Ian Jones 1457 o ddefaid mewn naw awr.

Roedd y pâr profiadol yn ymgymryd â'r her yn ystod y dydd yng Ngholeg Amaethyddol Llysfasi ger Rhuthun.

Mae'r ddau wedi ennill sawl cystadleuaeth gneifio yng Nghymru a dramor dros y blynyddoedd, ac wedi gweithio fel cneifwyr yn Seland Newydd am gyfnodau.

Dywed y trefnwyr fod profion gwyddonol mewn gwledydd eraill wedi dangos fod cneifio 250 o ddefaid yn defnyddio cymaint o egni a rhedeg marathon.

Fe lwyddodd Gareth Daniel, o Fachynlleth i gneifio 781 o ddefaid, ac fe lwyddodd Ian Jones, o Lanelwedd i gneifio 676.

Ffynhonnell y llun, BWMB

'Hollbwysig i'r diwydiant'

Mae Gareth, sydd yn wreiddiol o Benegoes ger Machynlleth ac yn ffermio gwartheg a defaid, wedi bod yn bencampwr cneifio Cymru deirgwaith yn ogystal â chynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cneifio'r Byd bedair gwaith.

Llwyddodd Ian, ffermwr defaid o Hundred House ger Llanfair-ym-Muallt, i ennill Pencampwriaethau Cneifio Agored Ffrainc y llynedd.

"Mae heriau fel un Gareth ac Ian wrth geisio torri record yn hollbwysig i'r diwydiant gwlân," meddai Ian Buchanan, cadeirydd Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain, sy'n darparu hyfforddiant i 1,000 o gneifwyr y flwyddyn.

"Nid yn unig y maen nhw'n rhoi sylw i'r unigolion talentog tu hwnt sydd yn gyrru'r diwydiant yn ei blaen, ond maen nhw hefyd yn cynorthwyo wrth hyrwyddo safon gwlân Prydeinig i gynulleidfa ehangach."