Enwogion tu ôl i'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae amryw o'n hysgolion ni, cynradd ac uwchradd, wedi'u henwi ar ôl gwahanol bobl. Ond faint wyddoch chi amdanyn nhw?
Aeth Cymru Fyw ati i lunio rhestr dethol o ysgolion ar hyd a lled y wlad, gan roi rhywfaint o hanes yr unigolion tu ôl i'r enwau:
Syr Hugh Owen (1804-1881)
Er mai gyda Chaernarfon y mae'r academydd hwn yn cael ei gysylltu, brodor o Fôn oedd Hugh Owen. Ar ôl gweithio yn Llundain am sawl blwyddyn, dychwelodd i Gymru gan chwarae rôl amlwg yn sefydlu'r Coleg Normal ym Mangor, a choleg tebyg i ferched yn Abertawe.
Chwaraeodd rôl flaenllaw hefyd yn natblygiad Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth cyn mynd ymlaen i sefydlu'r 'London Welsh Charitable Aid Society'. Bu farw ym Menton yn Ffrainc ychydig fisoedd ar ôl cael ei urddo'n farchog, a cafodd ei gladdu yn Llundain. Ond yn nhref y Cofis y mae ei waddol, ac os nad oedd enwi'r ysgol ar ei ôl yn ddigon, mae cofgolofn ohono ar y Maes yng Nghaernarfon hefyd.
John Bright (1811-1889)
Rhoddwyd enw John Bright i ysgol uwchradd yn Llandudno am mai yma bu farw mab yr areithiwr enwog. Bu John Bright, a oedd yn hannu o Rochdale a doedd gan ddim cysylltiadau amlwg â Chymru, yn gyfrifol am ariannu a sefydlu'r ysgol ramadeg yng ngogledd Cymru.
Roedd yn adnabyddus am ei areithiau lliwgar ac am fathu dywediadau fel "flogging a dead horse". Bu'n aelod seneddol dros Birmingham, yn lais i'r dosbarth gweithiol ac yn un o'r ychydig rai wnaeth wrthwynebu Rhyfel y Crimea y gyhoeddus.
Syr O M Edwards (1858-1920)
Yn wreiddiol o Lanuwchllyn, astudiodd Owen Morgan Edwards yn Rhydychen cyn darlithio mewn hanes yno. Bu'n flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, a wnaeth lawer i adfywio llenyddiaeth Gymraeg ar gychwyn yr ugeinfed ganrif.
Aeth ymlaen i fod yn Brif Arolygydd Ysgolion y Bwrdd Addysg yng Nghymru. Cafodd ddylanwad mawr ar addysg yng Nghymru, a bu'n ymladd yn erbyn y system addysg uniaith Saesneg. Daeth yn enw mor adnabyddus dros Gymru, fel na theimlodd yr arweinydd yn Eisteddfod Castell-nedd yn 1918 fod angen mwy o gyflwyniad i lywydd y dydd na: "Dyma fo i chi - Gwaredwr mawr y Gymraeg!"
Mae ysgol gynradd yn ei bentref enedigol wedi'i enwi ar ei ôl.
Evan James (1833-1902)
Evan James, neu 'Ieuan ap Iago' i roi iddo ei enw barddol, oedd cyfansoddwr yr anthem genedlaethol, 'Hen Wlad Fy Nhadau'. Roedd yn cadw'r Ancient Druid Inn yn Argoed, ger Caerffili, pan anwyd ei fab James, neu 'Iago ap Ieuan'.
Symudodd y teulu i Bontypridd ac roedd Evan James yn berchen ar ffatri wlan yno. Mae'n debyg mai'r mab a gyfansoddodd yr alaw i'r anthem yn 1856, a'r tad a ysgrifennodd y geiriau.
Ym Mhontypridd y mae lleoliad Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James ac, yn briodol iawn, 'O Bydded i'r Heniaith Barhau' yw ei harwyddair. Mae cofeb i'r tad a'r mab ym mharc Ynysangharad, Pontypridd.
Y Ferch o'r Sgêr/Elizabeth Williams (1747-1776)
Mae ysgol yn ardal Pen-y-bont wedi'i henwi ar ôl Elizabeth Williams, sy'n fwy adnabyddus fel Y Ferch o'r Sgêr.
Mae'n debyg fod Elizabeth, a oedd o ardal Morgannwg, wedi syrthio mewn cariad gyda thelynor tlawd, Thomas Evans, ond doedd ei theulu ddim yn fodlon iddi ei briodi. Cafodd ei gorfodi i briodi gŵr cefnog o'r enw Thomas Kirkhouse o Gastell-nedd yn ei le. Daw'r gân werin Gymraeg, 'Y Ferch o'r Sgêr', o'r hanes am Thomas yn denu Elizabeth.
Syr Thomas Picton (1758-1815)
Milwr oedd Syr Thomas Picton o ardal Poyston, Sir Benfro. Daeth yn enwog pan oedd yn bennaeth y 'Fighting Third Division' yn y rhyfel yn Sbaen a Phortiwgal, neu'r 'Peninsular War'.
Ar ôl dychwelyd i Gymru, ceisiodd fod yn aelod seneddol yn sir Gaerfyrddin ond cafodd ei alw yn ôl i'r fyddin i fod yn bennaeth y 'Fifth Division' wedi i Napoleon ddianc o ynys Elba, yr Eidal. Roedd yn ffigwr dadleuol iawn ac fe wynebodd sawl cyhuddiad ac achosion llys yn ymwneud â thrais, caethwasiaeth a phoenydio.
Cafodd ei ladd ym mrwydr Waterloo, 18 Mehefin 1815. Mae cofgolofn iddo yn eglwys gadeiriol St. Paul yn Llundain, yn ogystal ag yng Nghaerfyrddin. Mae ysgol uwchradd yn Hwlffordd wedi ei enwi ar ei ôl.