Teyrngedau i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
A496Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A496 yng Nghaerdeon rhwng Bontddu a Bermo

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn ifanc fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri char yng Ngwynedd dros y penwythnos.

Mae wedi ei enwi'n lleol fel Guto Pugh, 21 oed, o Fachynlleth a bu farw yn y digwyddiad ar yr A496 yng Nghaerdeon rhwng Bontddu a Bermo fore Sadwrn.

Roedd ar y ffordd i'w waith yng Ngwesty Bae Abermaw pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Roedd yn ei ail flwyddyn yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn aelod o fand pres y coleg.

'Person anhygoel'

Mewn datganiad, dywedodd Gwesty Bae Abermaw: "Yn drist, bu farw un o aelodau ein staff, Guto Pugh, mewn damwain drasig ar ei ffordd i'r gwaith fore Sadwrn.

"Rydym yn dymuno anfon ein cydymdeimlad i'w deulu a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn.

"Roedd Guto yn berson anhygoel ac yn gwneud i ni gyd wenu, byddwn yn ei fethu'n arw."

Dywedodd band pres Prifysgol Bangor ar eu tudalen Facebook eu bod wedi colli "ffrind a chyfaill oedd yn cael ei garu'n fawr".

Dywedodd yr heddlu bod tri char yn y gwrthdrawiad - Citroen arian, Ford Fiesta arian a Ford Fiesta glas.

Roedd Mr Pugh yn gyrru'r Citroen a bu farw yn y fan a'r lle.