Arwr Tawel Get Inspired 2018 yn chwilio am y gwirfoddolwyr mwyaf blaengar, deinamig ac ymroddgar

  • Cyhoeddwyd
BBC Arwr Tawel logo

Bydd gwobr Arwr Tawel Get Inspired y BBC yn dychwelyd i ddathlu gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser i helpu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a ffitrwydd ar lawr gwlad.

Bydd Arwr Tawel 2018 yn dychwelyd am y 16eg flwyddyn yn olynol ac fe fydd yn chwilio am y gwirfoddolwyr mwyaf deinamig, blaengar a gweithgar o bob cwr o'r DU sy'n ysbrydoli pobl o bob oed i gadw'n heini.

Unwaith eto, rydyn ni'n gofyn i chi enwebu Arwr Tawel o'ch ardal chi.

Anfonwch eich enwebiadau heddiw!

Sut?

Mae'n syml: dywedwch pam mae'r unigolyn rydych chi'n ei enwebu'n haeddu bod yn Arwr Tawel Get Inspired y BBC.

Gallwch wneud cais drwy wneud y canlynol:

Gallwch weld enghreifftiau o enwebiad ysgrifenedig yma, dolen allanol ac enwebiad fideo yma.

Pam?

Rydyn ni eisiau parhau i ddathlu cyfraniad y rheini sydd wedi bod yn annog pobl i gadw'n heini ers blynyddoedd, ond hefyd eisiau canolbwyntio ar yr Arwyr Tawel ifanc sydd â straeon ysbrydoledig i'w hadrodd.

Er enghraifft, y myfyriwr coleg sy'n annog torf o bobl i gymryd rhan yn ei glwb rhedeg wythnosol drwy ddefnyddio ei ddoniau ar y cyfryngau cymdeithasol, y gweithiwr proffesiynol ifanc sy'n treulio ei nosweithiau yn y clwb bocsio i gadw plant difreintiedig oddi ar y stryd. A'r athrawes ddawns 17 oed sy'n defnyddio ei dosbarth fel llwyfan i drafod pwysigrwydd iechyd meddwl.

Os ydynt yn chwaraeon neu'n weithgareddau* y mae angen gwirfoddolwyr i'w cynnal, a'ch bod chi'n gwybod am rywun anhunanol sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pobl yn cadw'n heini, mae angen eich enwebiad chi arnom ni!

(* cyn belled â bod y gweithgaredd yn cael ei gydnabod gan gorff llywodraethu cenedlaethol - fel sydd wedi nodi'n unrhyw le yn y ddogfen hon, dolen allanol)

Pwy?

Rhywun deinamig, brwdfrydig ac uchelgeisiol sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned neu'ch clwb. Pwy ydych chi'n ei adnabod sy'n bodloni'r meini prawf?

Dychmygwch nhw'n tynnu hunluniau gyda'r sêr ar garped coch BBC Sport Personality ac yn derbyn gwobr o flaen arena lawn dop, gan wybod mai'ch enwebiad chi oedd yn gyfrifol am hynny. Mae enillydd 2017 Denise Larrad yn gwybod yn union beth rydyn ni'n ei olygu.

Ffynhonnell y llun, Steve Pope
Disgrifiad o’r llun,

Mike Blake oedd enillydd Gwobr Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru yn 2017

Mae'n werth rhoi cynnig arni, dydy? Ewch ati i gydnabod yr unigolyn sydd bob amser yn rhoi pobl eraill yn gyntaf drwy ei enwebu ar gyfer gwobrau 2018.

Hyd yn oed os ydych chi wedi enwebu rhywun o'r blaen, gallwch ei enwebu ef neu hi eto eleni (cyn belled nad yw ef neu hi wedi ennill yn eich ardal o'r blaen).

Ble?

Rydym am ddod o hyd i'r gwirfoddolwyr mwyaf gweithgar, angerddol ac ysbrydoledig ym mhob rhan o'r DU.

O Thurso i Torquay ac o Lanelli i Lowestoft, bydd ein gorsafoedd rhanbarthol a chenedlaethol yn casglu eich enwebiadau ym mhob cwr o'r wlad.

Ar ôl derbyn eich enwebiadau, a gyda chymorth panel lleol, bydd rhestr fer yn cael ei hystyried a bydd enillydd rhanbarthol yn cael ei gyhoeddi.

Bydd 15 enillydd, un o bob rhanbarth, yn mynd ymlaen i'r wobr genedlaethol, lle bydd panel o'r radd flaenaf o fyd chwaraeon yn ystyried pob Arwr Tawel yn fanwl, gyda rhywfaint o gymorth gan bobl o'r cyfryngau a'r diwydiant chwaraeon. Ar ôl diwrnod o drafod tanllyd, byddant yn penderfynu pwy fydd Arwr Tawel Get Inspired y BBC 2018.

Pryd?

Mae'r cyfnod enwebu ar agor NAWR , felly ewch ati i wneud rhywbeth bach i rywun sy'n gwneud rhywbeth mawr!

Rhaid enwebu eich Arwr Tawel cyn y dyddiad cau, sef hanner nos Nos Sul 21 Hydref 2018, neu bydd rhaid i chi aros tan 2019.