Buddsoddi dros £100m ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau gyda buddsoddiad o dros £100m dros gyfnod o dair blynedd er mwyn gwella cyfleusterau preswyl ac addysgu.
Mae tua £45m yn cael ei wario ar lety newydd ar gyfer 1,000 o fyfyrwyr, gyda 100 o fflatiau stiwdio ar Fferm Penglais.
Fe fydd £35m pellach yn mynd ar gampws ymchwil yng Ngogerddan.
Mae £4.5m wedi ei wario ar ardaloedd darlithio ac addysgu yng Nghanolfan Llanbadarn, a gallai hyd at £20m gael ei wario ar welliannau i'r Hen Goleg ar lan y môr os fydd cais am gyllid yn llwyddo.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Dyma un o'r buddsoddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y brifysgol.
"Gyda'u gilydd, byd yn sicrhau y bydd prifysgol hynaf Cymru mewn sefyllfa dda i oroesi heriau'r 21ain Ganrif."
Ychwanegodd y brifysgol y byddai ail-ddatblygu neuaddau Pantycelyn yn cael ei drafod ym mis Hydref.