Achub pedwar nofiwr o'r môr ym Mhenrhyn Gŵyr

  • Cyhoeddwyd
three cliffsFfynhonnell y llun, Kev Griffin

Mae pedwar nofiwr wedi cael eu hachub ar ôl i lanw cryf eu tynnu allan i'r môr ger Penrhyn Gŵyr.

Roedd y pedwar yn nofio ar draeth bae Three Cliffs ar ôl bod yn caiacio ar hyd yr arfordir ger traeth Oxwich.

Roedd cerrynt cryf yno ac fe dynnwyd y pedwar tua 40 metr allan i'r môr ac i ddyfroedd dyfnion.

Roedd achubwr yr RNLI, Aran Rees yn goruchwylio'r ardal ac fe aeth allan i'r môr i achub y pedwar gyda chymorth achubwr arall.

Dywedodd rheolwr y bad achub lleol Jacob Davies: "Mae hyn yn atgoffa pawb o gryfder y llanw ar adegau.

"Mae ymwelwyr yn cael eu cynghori i barchu peryglon y môr ac i feddwl yn ofalus am eu diogelwch."