Ateb y Galw: Owain Tudur Jones
- Cyhoeddwyd
![Owain Tudur Jones (dde) yn chwarae i Hibernian yn Yr Alban](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/CBB5/production/_90994125__74343514_mclean-jones.jpg)
Owain Tudur Jones (dde) yn chwarae i Hibernian yn Yr Alban
Owain Tudur Jones, y sylwebydd pêl-droed a chyn chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon. Fe gafodd o ei enwebu gan Joe Allen yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cicio pêl. Ym mhob man. Drwy'r amser.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Pamela Anderson oedd Y pin-up pan o'n i'n tyfu fyny yn y 90au.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Doeddwn i ddim yn teimlo'n grêt ar ôl colli 7-1 yn fy ymddangosiad cyntaf i Norwich o flaen 26,000 o bobol. Nes i sgorio yn rhwyd fy hun yn fy nhrydedd gêm iddyn nhw. I wneud pethau'n waeth roedd y gêm yn erbyn Sunderland yn fyw ar Sky!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Ar ôl colli Taid ddechrau'r flwyddyn yn 89 oed.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Braidd yn styfnig ar adegau.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Unrhyw le yng nghanol mynyddoedd Eryri. Mae Cwm Idwal yn lle anhygoel.
![Mae Cwm Idwal yn le da i guddio ar ôl sgorio yn eich rhwyd eich hun yn fyw ar Sky!](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3CA9/production/_90992551_33f3e962-57b3-4728-bba7-9983601f8a58.jpg)
Mae Cwm Idwal yn lle da i guddio ar ôl sgorio yn eich rhwyd eich hun mewn gêm fyw ar y teledu!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Unrhyw noson ar ôl llwyddiant pêl-droed (dyrchafiad, neu ennill gêm fawr). Rhywbeth sbeshal o gael dathlu efo gweddill y tîm.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Dyn tal ofnadwy.
Beth yw dy hoff lyfr?
Wrth fy modd yn darllen llyfrau Lee Child am ei gymeriad caled, di-nonsens, Jack Reacher.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Dillad golff. Er nad ydw i wedi chwarae llawer yn ddiweddar, dwi'n gobeithio bod nôl ar y cwrs llawer mwy flwyddyn nesa'.
![Mae OTJ yn hoff iawn o'i ddillad golff...](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/D73F/production/_91030155__77391148_jones.jpg)
Mae OTJ yn hoff iawn o'i ddillad golff...
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'No Escape' efo Owen Wilson ar ôl i ffrind ei chanmol. Lot gwell nag o'n i'n ei ddisgwyl.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fydda'n chwarae dy ran di?
Jean-Claude Van Damme.
Dy hoff albwm?
Un o'r rhai Stereophonics cynnar.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?
Pwdin pob tro. Eton Mess, Sticky Toffee Pudding, 'wbath melys!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
'Fallai dyn o'r enw Conor McGregor sy'n cwffio yn yr UFC (Ultimate Fighting Championship) - fy hoff beth i wylio.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Caryl Parry Jones.
![Mi fuodd Owain yn ceisio coginio ar Pryd o Sêr efo Caryl. Wnaethon nhw 'Eton Mess', ta jyst 'mess'?](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B02F/production/_91030154_e86b75a1-76a8-4b96-afe4-3514e757142b.jpg)
Bu Owain yn ceisio coginio ar 'Pryd o Sêr' efo Caryl. Wnaethon nhw 'Eton Mess', ta jyst 'mess'?