Degawd gwallgo' Glyn

  • Cyhoeddwyd

Eleni, mae hi'n ddeng mlynedd ers i Gymru gyfan ddod i 'nabod Glyn Wise, pan ymddangosodd y disgybl ysgol 18 oed o Flaenau Ffestiniog ar ein sgriniau ar raglen 'Big Brother'.

Cafodd Glyn sgwrs â Cymru Fyw ynglŷn â'r cyfnod gwyllt wedi'r gyfres, a pham ei fod wedi penderfynu gadael Plaid Cymru.

Pam 'nes di benderfynu mynd ar 'Big Brother'?

Pan nes i Lefel A Cymraeg, nes i astudio 'Y Tŵr' gan Gwenlyn Parry, ac o'n i jest yn gweld fy mywyd o fy mlaen i yn dilyn yr un trywydd â rhai'r cymeriadau - ar ôl Lefel A, 'swn i'n mynd i'r Brifysgol, wedyn yn cael gwaith ac wedyn marw... o'dd 'na rwtin i fywyd a 'do'n i ddim eisiau hynny. Felly o'n i eisiau gwneud rhywbeth anhygoel.

Ffynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Glyn yn ail yng nghyfres 'Big Brother', ond fe lwyddodd i ennill calonnau'r cyhoedd

Dwi'n cofio edrych ar y gyfres y flwyddyn cyn i mi fynd arni, a finna'n troi at Mam a dweud mai fa'na y byddwn i mewn blwyddyn - yn cael fy nghyfweld gan Davina McCall. O'n i'n benderfynol. Felly es i ati i ymchwilio i ba fath o bobl oedd yn cael eu dewis i fynd ar y rhaglen - roedd 'na fel arfer merch ddel, rhywun oedd yn bimbo ayyb.

O'n i'n gwybod eu bod nhw heb gael rhywun 18 oed, braidd yn blentynnaidd o'r blaen, a nes i fyw i'r persona yna. Nes i hefyd benderfynu dangos ochr hynod hyderus iddyn nhw, gan ddweud mai fi oedd y person clyfra' a mwya' golygus y byddai byth ar y rhaglen! O'n i 'di sylwi eu bod nhw'n licio pobl efo hunan-hyder.

Sut beth oedd dy gyfnod di yn y tŷ?

Amser gorau mywyd i. Pryd arall gei di gyfle i fyw mewn tŷ efo 14 person, lle ti'n cael bwyd ac adloniant, 24 awr y dydd? O'n i'n anghofio mod i'n cael fy ngwylio, a dim syniad o gwbl sut oedd pethau am droi allan wedyn. O'n i wirioneddol yn meddwl, unwaith byddwn i'n gadael y tŷ, dyna fyddai'r diwedd, ac y byddwn i'n mynd yn ôl i fywyd go iawn. Nes i 'rioed feddwl 'sa bywyd mor wyllt wedi hynny.

Aeth pethau braidd yn wallgo'?

Do, o ran sylw ac o ran arian - dwi byth am allu gwneud arian tebyg eto. Ges i gyfle i wneud pethau 'swn i byth wedi dychmygu eu gwneud, fel bod ar glawr cylchgrawn 'Heat', modelu ar gyfer Calvin Klein, ymddangos ar 'Friday Night Project' a gorfod cyflwyno efo Girls Aloud! Roedd o fel corwynt.

Yr unig bobl enwog o'n i erioed wedi eu gweld cyn hynny oedd Tim Henman, Jonsi a Jeifin Jenkins! Feddylis i erioed y byddwn i'n enwog efo'r holl bobl 'ma, ac ar yr un lefel â nhw hefyd. Roedd papparazzi yn fy nilyn i bob man. O edrych nôl, mae o'n anodd credu mai fel'na oedd pethau.

Disgrifiad o’r llun,

Jonsi oedd un o'r bobl enwoca' roedd Glyn wedi ei gyfarfod... tan iddo fynd i mewn i dŷ Big Brother!

'Nath y cyfnod gwallgo' yma bara' rhyw flwyddyn, nes i'r don nesa' o bobl fynd i mewn i dŷ Big Brother a chymryd y sylw. Llwyddodd rhai, fel Jade Goody, i barhau efo pethau, ond doedd y rhan fwyaf methu gwneud hynny.

Y peth mwyaf ges i o'r cyfnod, mae'n siŵr, oedd swydd efo C2 ar Radio Cymru, a hynny am chwe blynedd. Nes i weithio efo'r cyfryngau am ddwy flynedd, ond 'nes i benderfynu mynd i'r brifysgol, ar y cyd â'r cyflwyno, oherwydd o'n i eisiau mynd yn ôl i mewn i'r byd addysg, ac eisiau cadw fy hun yn brysur.

'Nes i radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, wedyn i wneud ymarfer dysgu. Wedi hynny, fues i'n gweithio fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhydywaun am ddwy flynedd, wedyn fel tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd am ddwy flynedd.

Eleni, roeddet ti'n ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Canol Caerdydd yn etholiadau'r Cynulliad, ond ddiwedd mis Awst, 'nes di gyhoeddi dy fod yn gadael y blaid. Beth achosodd y newid hyn?

Dwi wastad wedi credu ym Mhlaid Cymru ac wastad wedi meddwl mai nhw oedd â'r atebion gorau i Gymru. Ond wrth gwrs, mae Ewrop a Phrydain wedi newid yn dilyn Refferendwm yr UE - a dwi'n meddwl y dylai Plaid Cymru wrando ar anghenion pobl Cymru. Ac mae 53% o bobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE - a dydi cynllun y Blaid i geisio cael gwlad annibynnol o fewn yr UE ddim yn cyd-fynd efo hyn.

Ac efo'r holl bethau sydd wedi digwydd yn Nice, Gwlad Belg, yr Almaen yn ddiweddar - dwi'n meddwl fod angen rheoli'r ffiniau. Does gen i ddim problem gorfod cael fisa er mwyn mynd i'r gwledydd yma - oherwydd wedyn mae rhywun yn gwybod eu bod nhw wedi edrych ar gefndir pobl a'u bod nhw ddim yn beryglus. Ti methu gadael rhywun-rhywun i mewn.

Ffynhonnell y llun, Glyn Wise
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyn yn mwynhau ei hun ar ei flwyddyn allan

A beth yw'r cam nesaf?

Rŵan dwi'n mynd i deithio. Dwi wedi bod i 'chydig o lefydd yn barod - De Affrica, oedd yn anhygoel, Twrci, Sbaen. Roedd Israel yn wych hefyd - roedd o fel camu i mewn i'r Beibl! Ac wedyn dwi am fynd i'r Ariannin, Cuba, Vietnam, Cambodia, Gwlad Thai ac Awstralia.

Dwi newydd adael Caerdydd, a rhentu fy nhŷ yng Nghaergrawnt allan - a dwi jest am fod yn teithio. Bydda i'n mynd ar fy mhen fy hun, ond mae gen i ffrindiau ym mhob man, felly bydda i byth yn unig. Mae'n gyfnod cyffrous iawn!

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Glyn ar glawr blaen cylchgrawn 'Heat' yn 2006

Dwi ddim yn hollol siŵr am faint y bydda i'n teithio eto - tan y bydda i'n barod i ddod adra', am wn i. Dwi ddim yn hollol siŵr sut fath o swydd dwi eisiau eto, felly bydd rhaid aros i weld beth sy'n codi. 'Swn i wrth fy modd yn gweithio ym Mhatagonia - 'nes i draethawd am fywyd yno unwaith, ond dwi erioed wedi bod yna! Neu efallai gweithio yn y cyfryngau. Bydd rhaid gweld.

Oes gen ti un uchafbwynt dros y 10 mlynedd diwetha'?

Dwi'n gyffrous iawn am y cyfnod dwi ynddo fo rŵan, i fod yn onest. Dwi'n gallu edrych yn ôl a meddwl 'waw' - dwi wedi cyflawni gymaint, a dwi'n gwybod y galla i gyflawni lot mwy. Mae'r dyfodol yn rhywbeth i edrych ymlaen ato fo.

Mae gen i lun sydd wastad gen i, ac arno mae'r dyfyniad "The world is yours for the taking". Dyna dwi eisiau ei wneud - mynd allan a phrofi popeth alla i a byw bywyd gwych.