Cyhoeddi cyflwynwyr Radio Cymru Mwy

  • Cyhoeddwyd
Radio Cymru Mwy
Disgrifiad o’r llun,

Elan Evans, Gwennan Mair, Caryl Parry Jones a Steffan Alun yw rhai o gyflwynwyr gwasanaeth newydd Radio Cymru Mwy

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi enwau'r lleisiau fydd ar donfeddi BBC Radio Cymru Mwy, pan fydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ddydd Llun 19 Medi.

Gorsaf dros dro yw Radio Cymru Mwy, sy'n rhan o gyfres o ddatblygiadau digidol gan BBC Radio Cymru ar drothwy ei phen-blwydd yn 40 oed.

Bydd yr orsaf yn darlledu trwy gyfrwng gwefan Radio Cymru, radio DAB yn y de ddwyrain, ac ar ap BBC iPlayer Radio.

A dros gyfnod o 15 wythnos yn ystod bore'r wythnos waith, bydd pwyslais ar "fwy o gerddoriaeth a mwy o hwyl".

Am y tro cyntaf am 07:00, bydd Radio Cymru Mwy yn cynnig "sioe frecwast fywiog llawn cerddoriaeth", tra bod y Post Cyntaf yn darlledu'r newyddion diweddaraf ar Radio Cymru.

Lleisiau poblogaidd fel Ifan Evans, Huw Stephens a Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno, a'r cyfan yn dechrau ar 19 Medi, gyda'r cyflwynwydd cyntaf un Caryl Parry Jones wrth y llyw.

Disgrifiad,

Radio Cymru Mwy yn lansio, gan addo "mwy o gerddoriaeth, mwy o hwyl, mwy o ddewis."

Dywedodd golygydd BBC Radio Cymru, Betsan Powys: "Wrth i ni baratoi at ddathlu pen-blwydd Radio Cymru'n ddeugain oed yn 2017, mae'n wych bod gyda ni gyfle i arbrofi, arloesi a thorri tir newydd.

"Rwy'n falch ein bod ni'n gallu dod â chyfuniad o dalent newydd sbon ynghyd â rhai o leisiau mwyaf poblogaidd Cymru i gynnig mwy o ddewis i'r gynulleidfa.

"Ar 19 Medi, ewch ati i chwilio am Radio Cymru Mwy a chael blas o'r hyn sydd ar gael - mwy o gerddoriaeth, mwy o gwmni bywiog, mwy o ddewis.

"Ac mae'n holl bwysig i ni ein bod yn cael clywed barn y gwrandawyr felly rhowch wybod eich barn am yr hyn fyddwch chi'n ei glywed drwy'r wefan a chyfryngau cymdeithasol."

line

Beth fydd ar Radio Cymru Mwy?

Yn dilyn y sioe frecwast, o 10:00 tan 12:00 bob dydd, bydd y ffocws ar leisiau newydd, ac ambell un cyfarwydd, fydd yn cael trio rhywbeth gwahanol, gyda'r nod o ddod ag amrywiaeth i wrandawyr Radio Cymru Mwy.

  • Bob dydd Llun, cyflwynwyr newydd fydd yn llenwi'r tonfeddi digidol gyda cherddoriaeth. Am y mis cyntaf, y DJ o Gaerdydd Elan Evans fydd yn cyflwyno ei detholiad personol hi o draciau.

  • Bob dydd Mawrth ac Iau, rhaglenni cerddorol yn cynnig rhestrau chwarae thematig a dewisiadau diddorol gan enwau mawrion.

  • Rhaglenni gwahanol fydd i'w clywed bob dydd Mercher, gan ddechrau gyda'r artist theatr Gwennan Mair, o Lan Ffestiniog.

  • Bydd rhaglenni dydd Gwener yn edrych ymlaen at gyffro'r penwythnos. Fe fydd y comediwr Steffan Alun o Abertawe yn ymuno â Kevin Davies er mwyn edrych nôl ar rai o straeon llai amlwg yr wythnos.

Cyflwynwyr eraill fydd i'w clywed ar yr orsaf dros-dro, fydd ar yr awyr tan 2 Ionawr 2017 o ddydd Llun i ddydd Gwener, fydd y ddeuawd Carl ac Alun a'r actores a'r gyflwynwraig, Lisa Angharad.

Ar gael drwy Gymru gyfan, bydd modd gwrando ar Radio Cymru Mwy ar wefan Radio Cymru Mwy, ar yr ap BBC iPlayer Radio ac fel dewis arall ar radio digidol DAB yn y de ddwyrain.

Bydd amserlen Radio Cymru yn aros fel ag y mae ar FM ac ar DAB drwy Gymru.

line