'Buddsoddiad pwysig' yn creu 39 o swyddi ym Mhen-y-bont

  • Cyhoeddwyd
Zimmer Biomet

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi y bydd 39 o swyddi newydd yn cael eu creu ar safle Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r cwmni'n cyflogi dros 800 o bobl ar Ystad Ddiwydiannol Waterton yn y dref, lle mae'n creu amrywiaeth o gynnyrch ar gyfer cluniau a phengliniau newydd, sydd yna'n cael eu hallforio'n fyd-eang.

Fe gyhoeddodd Mr Jones fanylion y buddsoddiad tra ar ymweliad â'r Unol Daleithiau, lle mae'n trafod cyfleoedd buddsoddi gydag uwch-swyddogion gweithredol cwmnïau sydd â phrosiectau sylweddol yng Nghymru.

Bydd buddsoddiad Zimmer Biomet, sydd werth £2.5m, gyda chymorth o £700,000 gan Lywodraeth Cymru, yn arwain at greu Canolfan Ragoriaeth Ewropeaidd ar gyfer technolegau arbenigol i greu deunydd mân-dyllog a gaiff ei ddefnyddio i wneud mewnblaniadau orthopedig.

Yn Warsaw, Indiana y mae prif safle Zimmer Biomet, a dim ond yn y fan honno ac yn y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr y mae gan y cwmni gyfleusterau i gynhyrchu'r deunydd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gyhoeddodd Carwyn Jones fanylion y buddsoddiad tra ar ymweliad â'r Unol Daleithiau.

Dywedodd y Prif Weinidog: "Cafodd y penderfyniad i fuddsoddi ei gadarnhau heddiw yn fy nghyfarfod gyda Zimmer Biomet yn Chicago. Cefais y cyfle i ategu bod Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r penderfyniad i ehangu eu busnes yng Nghymru.

"Mae'n fuddsoddiad pwysig sy'n diogelu twf cynaliadwy'r busnes yng Nghymru yn y tymor hir ac yn sicrhau y bydd y safle'n parhau i chwarae rôl ganolog yn y sefydliad byd-eang hwn.

"Mae'n amser cyffrous i safle Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont sy'n tyfu'n sylweddol ac yn gweld cynnydd yn y galw am eu cynnyrch. Bydd yr ehangiad hwn yn cynyddu maint y busnes a'i allu i gystadlu yn ogystal â chreu swyddi medrus sy'n talu'n dda.

"Mae'n newyddion da hefyd i gleifion a'r sector gofal iechyd yng Nghymru gan y bydd perthynas glòs y cwmni â'r Gwasanaeth Iechyd yn helpu i wella'r ddarpariaeth yn ogystal ag arwain ar arbedion ariannol."

'Gwerthfawrogi'r gefnogaeth'

Ar ôl ei chyfarfod gyda'r Prif Weinidog, dywedodd Robin Barney, Is-lywydd Gweithrediadau a Logisteg Byd-eang Zimmer Biomet: "Roedd yn bleser cwrdd â'r Prif Weinidog yn Chicago.

"Mae Zimmer Biomet yn falch iawn o'i waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n parhau'n rhan bwysig o waith rhyngwladol y cwmni.

"Fyddai buddsoddiadau diweddar y cwmni yn safle Pen-y-bont ddim wedi bod yn bosib heb gymorth gan y Llywodraeth ac ymroddiad gweithwyr Zimmer Biomet yr ardal."