Annog eraill i ddysgu sgiliau arbed bywyd
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog cymorth cyntaf gwirfoddol a gynorthwyodd i achub bywyd dyn yn dilyn damwain ffordd yn Sir Conwy, wedi annog eraill i ddysgu sgiliau arbed bywyd sylfaenol.
Fe stopiodd Liam Booth, 18 oed, sy'n aelod o Wasanaeth Ambiwlans St John's Cymru yn Llandudno, ei gar i gynnig help pan ddaeth ar draws gwrthdrawiad ar ffordd yr A55 yn ger Bae Colwyn.
Bu'n perfformio CPR hyd nes i'r parafeddygon gyrraedd i fynd a'r dyn i'r ysbyty.
Mae St John's Cymru yn cynnig sesiynau ymwybyddiaeth achub bywyd yn rhad ac am ddim y mis hwn.
Dywedodd Liam: "Roeddwn yn gwybod beth i'w wneud, diolch i fy hyfforddiant. I bobl sydd efallai heb y sgiliau na'r hyder i helpu, gallai cwrs cymorth cyntaf cyflym wneud gwahaniaeth.."
Mae St John's Cymru'n dweud mai dim ond un ym mhob 10 o bobl sydd â'r sgiliau angenrheidiol i achub bywyd.
Dywedodd prif weithredwr y gwasanaeth, Keith Dunn: "Rydym yn credu na ddylai unrhyw un farw oherwydd eu bod wedi methu cael cymorth cyntaf, a dyna pam mae'n nod gennym i gael person sydd wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf ym mhob cartref yng Nghymru..
"Fe ddangosodd Liam pa mor werthfawr ac effeithiol y gallai'r hyfforddiant fod mewn sefyllfa anodd."