Llai o Gymry'n ymgeisio am gyrsiau meddygaeth
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y disgyblion o Gymru sy'n gwneud cais i astudio meddygaeth ar ei lefel isaf ers pum mlynedd.
570 o ddisgyblion o Gymru wnaeth gais y llynedd i astudio meddygaeth yn un o brifysgolion y DU - gostyngiad o 15%.
Mae'r nifer wedi gostwng yn fwy yng Nghymru nac yn unrhyw ran arall o'r DU.
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi galw am wneud mwy i sicrhau bod disgyblion ar draws Cymru yn cael cefnogaeth er mwyn gwneud cais i ysgolion meddygol.
Mae tua 3,000 o unigolion y flwyddyn, o bob rhan o Brydain a thu hwnt, yn gwneud cais i astudio yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd, ond dim ond un ym mhob bob deg sy'n cael eu derbyn.
'Amrywiaeth'
Mae Ainsley Richards o'r Mwmbwls newydd ddechrau ar ei phedwaredd flwyddyn yno.
"Yr hyn 'dwi'n dechrau gweld mwy ohono yng Nghymru yw'r amrywiaeth," meddai.
Ychwanegodd bod y gallu i ddefnyddio ei Chymraeg yn atyniad mawr i astudio yng Nghaerdydd, a'i bwriad yw parhau â'i gyrfa yng Nghymru ar ôl graddio.
"Chi'n gyrru awr a chi'n cael meddygaeth wledig a mwy dinesig wedyn yn y ddinas, ac mae'r gwahaniaeth yn gyffrous iawn, a dyna'r rheswm 'dwi eisiau aros," meddai.
Ond nid prinder meddygon sy'n siarad Cymraeg sydd yna yn unig. Mae Cymru'n brin o feddygon mewn sawl ardal ac mewn sawl arbenigedd.
Mae ymchwil yn awgrymu bod meddygon ifanc yn fwy tueddol o aros yn agos i ble cawson nhw eu hyfforddi, ond mae llai o ddisgyblion Cymru yn ymgeisio i astudio meddygaeth yn y lle cyntaf.
'Straeon negyddol'
Mae nifer y ceisiadau gan ymgeiswyr o Gymru i ysgol feddygol fwya'r wlad yng Nghaerdydd wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf hefyd.
269 o fyfyrwyr ymgeisiodd am le eleni o'i gymharu â dros 350 yn 2012, a hynny er bod cynnydd wedi bod yn nifer yr ymgeiswyr o rannau eraill o Brydain a'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd cynrychiolydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, Sara Whittam bod angen gwneud mwy i ddenu myfyrwyr o Gymru i'r pwnc.
"Mae 'na lot o bwysau wedi bod yn y cyfryngau ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd - lot o sôn am y pwysau gwaith sy'n wynebu doctoriaid," meddai.
"Mae cymaint o straeon negyddol ynglŷn â meddygaeth fel gyrfa, fallai bod 'na bynciau wedyn sy'n fwy deniadol."
Er mwyn ceisio mynd i'r afael a'r broblem, mae Ms Whittam yn dweud bod angen sicrhau fod plant disglair o bob cwr o Gymru yn cael digon o gefnogaeth ac anogaeth os ydyn nhw'n ystyried gyrfa feddygol.
"O ran Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, 'da ni'n ymwybodol o'r ysgolion sydd yn ymgeisio i ddod aton ni yn rheolaidd, a 'da ni hefyd yn ymwybodol o rai ysgolion 'da ni ddim yn derbyn cais ganddyn nhw," meddai.
"Mae lot o waith a chyfrifoldeb mawr i genhadu fod pob disgybl yng Nghymru yn cael yr un mynediad.
"'Da ni angen sicrhau fod pob ysgol yng Nghymru yn cael yr un fantais ac yn dod i ddeall realiti astudio meddygaeth, i ymgeisio a bod yn uchelgeisiol."
Cwotâu?
Polisi Prifysgol Caerdydd yw bod pawb sy'n gwneud cais i'r ysgol feddygol yn cael eu trin yn gyfartal, ac yn cael eu dewis o ran gallu a photensial.
Ond mae rhai yn dadlau bod angen isafswm o lefydd i fyfyrwyr o Gymru yn yr ysgolion meddygol sydd yng Nghymru. Ond mae son am gwotâu yn gallu bod yn ddadleuol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn buddsoddi mwy na £350m y flwyddyn i addysgu a hyfforddi gweithwyr iechyd, a'u bod yn cefnogi mwy na 15,000 o fyfyrwyr, myfyrwyr dan hyfforddiant, a staff.
"Rydym yn gweithio gyda Byrddau Iechyd i ddatblygu strategaeth i sicrhau bod gan GIG Cymru'r gweithlu meddygol sydd ei angen arno nawr ac yn y dyfodol," meddai llefarydd.
"Rydym hefyd yn gweithio gyda Deoniaeth Cymru, ysgolion meddygol a phartneriaid eraill i hyrwyddo Cymru fel lle i astudio, hyfforddi a gweithio.
"Rydym hefyd yn cyfrannu at waith ehangu mynediad y ddwy ysgol feddygol yng Nghymru, yn enwedig o ran sut y gallant gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n astudio yn ysgolion meddygol Cymru."
Dros y chwe wythnos nesa bydd cyfres 'Doctoriaid Yfory' ar S4C yn cael cipolwg ar y to nesaf o feddygon yn ystod eu hyfforddiant yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Yn eu plith mae Gwenlli Mai o Drawsfynydd, a buodd hi'n sôn wrth Cymru Fyw am ei huchelgais yn y byd meddygol a'r sefyllfa unigryw wnaeth ei denu at yr alwedigaeth.