Gwasg Honno'n dathlu 30 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae gwasg o Gymru yn dathlu ei phenblwydd yn 30 oed mewn digwyddiad ddydd Sadwrn.
Cafodd Gwasg Honno ei sefydlu gan wirfoddolwyr yn 1986 er mwyn cyhoeddi llenyddiaeth gan fenywod Cymru.
Bellach hi yw'r unig wasg o'i math ym Mhrydain.
Mae'r wasg yn adnabyddus am gyhoeddi cyfrolau gan ferched fel Sara Maria Saunders a Jane Ellis, oedd yn ysgrifennu yn ystod y 19eg ganrif a dechrau'r 20ed ganrif.
I ddathlu'r pen-blwydd, mi fydd 'na weithdai a darlithoedd anffurfiol yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, yn ystod y prynhawn.
'Dylanwad'
Wrth fesur cyfraniad y wasg dywedodd un o'r sylfaenwyr, Rosanne Reeves: "Rwy'n lico teimlo bod y ffaith fod Honno wedi dechrau rhoi cymaint o bwyslais ar awduron sy'n ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, ein bod ni efalle wedi dylanwadu ar weisg eraill.
"Achos yn sicr, ers hynny, mae gweisg eraill Cymru wedi cyhoeddi llawer mwy gan fenywod o Gymru - felly 'dyn ni wedi gwneud cyfraniad yn y ffordd 'na, dwi'n siŵr."
Fe ddywedodd Dr Cathryn Charnell-White, sydd ar bwyllgor rheoli Honno, ei bod yn gobeithio y bydd y pen-blwydd yn sbarduno diddordeb yng ngwaith y cyhoeddwyr.
"Mi fyddwn i'n hoffi cyhoeddi mwy o ffuglen gyfoes gan fenywod felly efallai bod y sylw o amgylch y penblwydd arbennig yma yn mynd i ddod â Honno at sylw awduron sy'n chwilio am rywun i gyhoeddi eu gwaith," meddai.