Nirvana, Kurt Cobain a Chymru
- Cyhoeddwyd
Mae'n 25 mlynedd ers cyhoeddi un o'r albyms roc mwyaf dylanwadol erioed. Mae 'Nevermind' gan y band Americanaidd Nirvana yn dal i werthu yn eu miloedd ac wedi dylanwadu ar gerddorion ymhob cwr o'r byd gan gynnwys yma yng Nghymru.
Mae Cymru Fyw yn edrych ar waddol Nirvana a'u canwr carismataidd, y diweddar Kurt Cobain:
Agwedd 'grunge'
Yn nodweddiadol o gerddoriaeth grunge, roedd Nirvana yn defnyddio lefel uchel o effeithiau sain arbennig, gan gynnwys feedback oedd yn cyfuno metal trwm a pync. Yn aml roedd testun y caneuon yn dywyll gyda chyfeiriadau cyson at farwolaeth, dieithrio cymdeithasol a difaterwch.
Mae'r cyflwynydd radio, Huw Stephens, yn credu bod delwedd y mudiad grunge yn hollbwysig.
"Be 'nath y bandiau yma oedd dangos bod dim rhaid gwisgo trowsus lledr a chael hairspray yn y gwallt i rocio," meddai.
"Roedden nhw'n gwisgo yn normal, a geiriau am bethau go iawn, yn lle bod yn 'glam' a dros ben llestri. Roedden nhw'n canu am bethau trist a real, pethau roedd y gwrandawyr o amgylch y byd yn deall i'r dim."
Dylanwad Cobain
Mae'r cyflwynydd a'r cerddor Dyl Mei yn cytuno: "Fel pync roc yn yr 70au, profodd grunge unwaith eto, ei bod hi'n bosib llwyddo heb fod y cerddor, canwr neu'r band gora' yn gerddorol, a bod agwedd bron mor bwysig â'r gerddoriaeth.
"Fyswn i'n dweud y bod Nirvana yn uchel iawn ar y rhestr o'r grwpiau mwyaf dylanwadol erioed, yn agos iawn i'r Sex Pistols a'r Velvet Undergroud. Yn sicr fysa sin roc y byd y dyddiau yma ddim yr un peth oni bai bod Cobain a Nirvana wedi arwain y sin grunge.
"Fel hefo popeth, roedd yr 80au wedi troi yn fwystfil o ddegawd. Roedd yn adeg pan roedd ymddangos yn fawr ac yn 'glam' yn ofnadwy o bwysig; dwi'n sôn yn bennaf am grwpiau megis Def Leppard a Motley Crue.
"Be' nath Nirvana oedd dangos i bobol ifanc bod hi'n iawn i fod yn chi'ch hun, a bod hi'n iawn i beidio ffitio mewn, boed yn gerddorol, neu ym mywyd bob dydd."
'Naturiol a Greddfol'
Roedd Owen Powell yn aelod o Catatonia, un o fandiau mwyaf llwyddiannus Cymru yn y 90au. Cafodd talentau Cobain gryn effaith ar Owen hefyd: "Roedd Kurt Cobain yn gerddor perffaith mewn ffordd. Fy hoff fath o gerddor. Naturiol a greddfol.
"Mae chwedl Cobain efallai wedi ein dallu ni i sawl ffaith syml amdano. Roedd ganddo lais anhygoel. Nid y math o lais roc traddodiadol ond rhywbeth oedd yn chwistrellu'n syth i'r galon.
"Roedd e'n ysgrifennu melodïau yn well na neb arall ar y pryd," ychwanegodd Owain. "Am fand roc, meddyliwch pa mor afaelgar yw Come As You Are. Meddyliwch am ei benderfyniad pwysig yn Smells Like Teen Spirit i hepgor y solo traddodiadol a chwarae melodi'r llais yn lle. Mae e'n herio ni. Mae'n tynnu'n sylw ni at y ffaith bod y melodi mor gryf bod e werth clywed eto. Ac mae'n gwneud y cyfan i edrych yn hawdd, fel petai e'n ddiogi o ryw fath ar ei ran e."
Ar ddechrau'r 90au roedd gan glwb TJ's yng Nghasnewydd enw fel man da am gerddoriaeth a'r gallu i ddenu enwau mawr i'r ddinas yn gyson.
Ar 10 Rhagfyr 1991, perfformiodd band Courtney Love, Hole, yn TJ's. Ond mae'n noson chwedlonol yng Nghymru yn bennaf oherwydd ymddangosiad Kurt Cobain.
Y noson honno, cyrhaeddodd y canwr Casnewydd mewn car wedi ei logi. Mae rhai yn dweud mai mewn Skoda y daeth o yno tra bod eraill yn mynnu mai Lada oedd y cerbyd (ond mae'r rhan fwyaf yn cytuno bod y car wedi torri i lawr).
Mae llawer yn dal i gredu mai yng nghlwb TJ's y dechreuodd y rhamant rhwng Kurt Cobain a Courtney Love.
Cobains Cymreig?
A gafodd Nirvana ddylanwad ar fandiau Cymru? Mae Huw Stephens yn credu mai band dyfodd i fyny nepell o glwb TJ's yn y Coed Duon gafodd eu dylanwadu fwyaf gan Nirvana.
"Dwi'n meddwl falle mai gyda'r Manic Street Preachers mai'r tebygrwydd mwyaf gyda Nirvana," meddai'r DJ.
"Yn Kurt Cobain a Richey Edwards mae gennych chi ddau eicon, dau sgwennwyr geiriau amrwd a gonest iawn. Roedd llwyddiant a phoblogrwydd Nirvana yn dangos i fandiau fod modd bod yn onest iawn iawn a byddai pobl yn eich croesawu i'w calonnau."
A beth am ein bandiau sy'n canu yn y Gymraeg? Dywedodd Dyl Mei: "Yn bendant, oedd Nirvana yn ddylanwad ar grwpiau Cymraeg, bosib bod y dylanwad yna wedi cymryd yn hirach i ymddangos gan fod be sy'n cael i alw'n cŵl Cymru yn ei dwf yn 1994.
"Ond ers hynna, mae'n bosib clywed ei ddylanwad ar grwpiau fel Gogz, Gwacamoli, Frizbee a hyd yn oed Pep le pew, er grŵp hip hop oeddem ni. Roedd Nirvana yn ddylanwad enfawr ar sŵn y grŵp, ddim o ran cerddoriaeth, ond o ran agwedd ffwrdd â hi, a neud yn union be oedden ni isio, heb boeni gormod am ymateb cymdeithas!
"Ar y foment, mae'r tri grŵp; Blaidd, Castro, a Y Ffug yn swnio fel eu bod dan ddylanwad Nirvana, yn bendant o ran agwedd a cherddoriaeth.
"Mae'r Ffug yn fand ifanc o ardal Crymych sydd 'di codi ambell wrychyn hefo rhai o'u geiriau, ond fel Nirvana, mae'r caneuon yn rhai bachog ac eithaf ysgafn, a dyna dwi'n meddwl oedd tric mwyaf Kurt, sef ymddangos yn drwm ac yn dywyll, ond, os gwrandewch ar y caneuon, pop da 'di nhw yn y bôn.", dolen allanol
Efallai nad oedd Nirvana a Cobain wedi cael dylanwad uniongyrchol ar gerddoriaeth Catatonia, ond mae 'na'n sicr ddylanwad, yn ôl Owen Powell: "O ran dylanwad personol Cobain arna i... wel, dwi'n dal i gredu mewn rock and roll. Dal yn ymateb yn reddfol i gerddoriaeth ac yn dal i chwilio am felodi ac ysbrydoliaeth.
"Dw i ddim yn gwybod am ddylanwad Nirvana yn uniongyrchol ar fandiau heddiw. Does neb yn swnio cystal â nhw. Ond mae ei arddull quiet verse, loud chorus wedi dod yn rhan hanfodol o gerddoriaeth roc."
(Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi gyntaf gan Cymru Fyw yn 2014)