Carchar i gyn-gynghorydd o Fôn am beryglu awyrennau
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gynghorydd o Ynys Môn wedi ei ddedfrydu i 18 mis o garchar am beryglu awyrennau'r Awyrlu drwy anelu goleuadau at beilotiaid oedd yn eu hedfan.
Roedd John Arthur Jones o Fodffordd wedi gwadu 13 o gyhuddiadau o beryglu awyrennau, ond fe'i cafwyd yn euog o bob cyhuddiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug fis Mehefin.
Fe gafodd ei ddedfrydu yn yr un llys ddydd Gwener.
Dywedodd yr erlyniad fod gan Jones obsesiwn gyda hediadau'r Awyrlu o faes awyr RAF Mona, gan anelu golau llachar at awyrennau Hawk dro ar ôl tro.
Roedd y golau wedi ei anelu o dir yr oedd yn berchen arno ym Mharc Cefni ym Modffordd, ac roedd yn peryglu peilotiaid oedd ar ymarferiadau.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Geraint Walters: "Rydych yn meddu ar ormodedd o hunanhyder yn eich gallu eich hun i gyflawni pethau, sy'n deillio o draheustra dwfn."
Ychwanegodd fod Jones wedi dechrau ar ymgyrch o fygwth yn erbyn yr Awyrlu, wedi iddo fethu a newid llwybr hedfan yr awyrennau oedd yn croesi uwchben datblygiad ar dir yr oedd yn ei berchen.
"Roedd y risg gafodd ei achosi yma yn sylweddol," meddai'r barnwr.
"Fe allai'r canlyniad fod wedi bod yn ddifrifol. Fe ddaeth eich ymddygiad i fod yn ymgyrch dros gyfnod o amser hir."
Digwyddodd y troseddau rhwng Tachwedd 2013 a mis Medi 2014.
Heddlu
Wrth ymateb i'r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Ringyll Chris Hargrave o Heddlu Gogledd Cymru: "Drwy gydol 2013 a 2014, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru nifer o alwadau o RAF Fali am oleuadau cyson yn peryglu awyrennau oedd yn hedfan o amgylch safle RAF Mona ger Bodffordd ar Ynys Môn.
"Roedd y golau'n achosi perygl sylweddol i awyrennau oedd yn hyfforddi yn ystod y nos, ac o ganlyniad cafwyd ymchwiliad i ddarganfod pwy oedd y troseddwr.
"Ym mis Medi 2014 cafodd John Arthur Jones ei arestio yn dilyn ymgyrch gwylio cudd a welodd o'n goleuo'r awyrennau o du allan i'w gartref. Drwy gydol yr ymchwiliad a'i achos llys, dydy o heb ddangos unrhyw edifeirwch am yr hyn a wnaeth na chydnabod y peryglon posib ag oblygiadau nid yn unig i weithlu'r Awyrlu ond hefyd i'r gymuned ehangach.
"Rydym yn croesawu'r ddedfryd ac yn gobeithio y bydd yn anfon neges glir i'r rhai hynny sy'n cyflawni troseddau tebyg."
Mae digwyddiadau o'r fath yn cael eu cofnodi ac yna eu trosglwyddo i'r heddlu er mwyn iddynt weithredu ar y mater."
Awyrlu
Dywedodd llefarydd ar ran yr Awyrlu: "Mae targedu awyrennau drwy ddefnyddio goleuadau llachar yn rhywbeth prin, ond serch hynny mae digwyddiadau o'r fath yn peryglu diogelwch ac yn drosedd yn ôl Cymal 222 o Orchymyn Llywio Hediadau 2009.
"Mae digwyddiadau o'r fath yn cael eu cofnodi ac yna eu trosglwyddo i'r heddlu er mwyn iddynt weithredu ar y mater."