Y DU yn euog o fethu rheoli allyriadau Aberddawan
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi torri'r rheolau drwy fethu rheoli lefel yr ocsid nitrogen sy'n cael ei ryddhau o orsaf bŵer ym Mro Morgannwg, yn ôl llys Ewropeaidd.
Fe ddyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop bod gorsaf bŵer Aberddawan wedi cael trwydded i ryddhau mwy na dwbl y lefel gyfreithiol o'r nwyon gwenwynig.
Roedd Llywodraeth y DU wedi dadlau nad oedd yr orsaf wedi torri unrhyw reolau am ei bod wedi'i chynllunio i losgi glo Cymreig, sy'n anodd i'w losgi.
Soniodd y llywodraeth hefyd am bwysigrwydd economaidd y safle, sy'n cyflogi 600 o bobl.
Ond fe wfftiodd y llys y ddadl honno, gan ddweud na ellid defnyddio dadleuon economaidd i gyfiawnhau torri rheolau Ewropeaidd ar allyriadau.
Bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU dalu costau cyfreithiol y Comisiwn Ewropeaidd, wnaeth fynd â'r achos i'r llys.
Mae elusen amgylcheddol y WWF wedi croesawu'r dyfarniad fel "hoelen arall yn arch hen orsafoedd pŵer budr Prydain".
'Effaith eang'
Mae Aberddawan wedi ei ddylunio'n benodol i losgi'r math o lo sy'n dod o byllau glo yng Nghymru.
Mae'r glo Cymreig yma'n fwy anodd i'w losgi na glo o lefydd eraill, a fe gafodd boeleri Aberddawan ganiatâd i y llywodraeth i ryddhau mwy o ocsidau nitrogen na gorsafoedd pŵer eraill y DU.
Dywedodd y cwmni sy'n cynnal yr orsaf, RWE, eu bod "wedi eu siomi" gyda'r dyfarniad a'u bod "wedi buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn technolegau gwahanol i leihau effaith amgylcheddol yr orsaf".
Fe ddywedodd rheolwr Aberthaw, Richard Little: "Bydd gan yr ymdrech i gydymffurfio â'r dyfarniad hwn effaith eang, mewn cyfnod anodd i'r farchnad cynhyrchu glo.
"Yn anffodus, fe fydd yn golygu y bydd ein gallu i ddefnyddio symiau mawr o lo Cymreig yn cael ei gyfyngu tipyn yn gynt na fyddai wedi bod fel arall.
"Er hyn, rydym yn credu y gallai'r orsaf barhau i sicrhau cyflenwad i mewn i'r 2020au gyda mesurau effeithlonrwydd, diwygiadau i'r orsaf, a newid i'n system reoli."
Roedd RWE eisoes wedi cyhoeddi eu bwriad i israddio'r safle o 2017 fel ei fod yn cynhyrchu trydan ar amseroedd prysur yn unig.
Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai Cyfoeth Naturiol Cymru fyddai'n gyfrifol am weithredu'r dyfarniad.
"Dadl y DU oedd bod deddfwriaeth yr UE wedi pennu terfyn allyriadau gwahanol ar orsaf Aberddawan oherwydd anarferoldeb ei ddyluniad, sy'n gysylltiedig â'i defnydd o gyflenwadau glo lleol," meddai'r llefarydd.
"Mae'r gweithredwr eisoes wedi buddsoddi ynddi i leihau allyriadau ac mae buddsoddiadau pellach ar y gweill i'w gostwng ymhellach dros weddill ei hoes wrth iddi newid i system cynhyrchu ynni carbon is.
"Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru nawr yn gweithredu i roi'r dyfarniad ar waith.
"Mae'n hymrwymiad i wella ansawdd yr aer ledled Cymru yn parhau a byddwn yn parhau hefyd i daclo allyriadau o ffynonellau diwydiannol."
Effaith amgylcheddol
Dywedodd Jessica McQuade o elusen y WWF: "Mae Llywodraeth y DU wedi gadael Cymru i lawr drwy beidio mynd i'r afael â llygredd.
"Mae'r dyfarniad yma'n tanlinellu ei bod hi bellach yn annerbyniol i anwybyddu iechyd pobl wrth benderfynu sut rydym ni'n cynhyrchu egni a gwneud i'r economi dyfu.
"Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn golygu bod rhaid ystyried iechyd pobl a'r amgylchedd wrth wneud unrhyw benderfyniad.
"Rydym ni'n gobeithio bydd hyn yn ysbrydoli llywodraethau'r DU a Chymru i ateb yr her o greu economi glân a charbon isel i Gymru."
Cyn y dyfarniad, fe wnaeth Cyfeillion y Ddaear Cymru a Greenpeace alw am gau'r orsaf oherwydd honiadau bod y llygredd yn cael effaith ar iechyd pobl.
Fe wnaeth adroddiad gan y ddau fudiad yn gynharach yn yr wythnos honni bod 400 o farwolaethau pob blwyddyn yn y DU yn cael ei achosi gan effaith yr ocsid nitrogen sy'n cael ei ryddhau o Aberddawan.
Yn ôl yr adroddiad, mae hyn yn cyfateb i 67 o farwolaethau yng Nghymru pob blwyddyn, gan fod llygredd yn cael mwy o effaith yn lleol, yn ogystal â mewn dinasoedd fel Caerwysg, Swindon a Bournemouth.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei fod eisiau cau pob gorsaf bŵer sy'n llosgi glo erbyn 2025.