Carchar am oes i lofrudd dynes ym Mae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
LlofrudiaethFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru/Llun teulu

Mae dyn 37 oed o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio dynes 65 oed mewn modd "didostur" ar ôl iddi wfftio ei gynigion rhywiol.

Dywedodd y barnwr fod Kris Wade wedi targedu Christine James oherwydd ei bod yn gwybod ei bod yn byw ar ei phen ei hun.

Dywedodd Mr Ustus Wyn Williams y dylai Wade gael ei garcharu am o leiaf 21 o flynyddoedd am lofruddiaeth "ffyrnig, annynol a didostur" Christine James yn ei fflat ym Mae Caerdydd.

"Eich bwriad oedd cael rhyw gyda hi. Fe wnaethoch dargedu Mrs James ar gyfer eich chwant rhywiol oherwydd eich bod yn gwybod ei bod yn byw ar ben ei hun yn ei fflat."

Clywodd Llys y Goron Caerdydd i Mrs James gael ei llofruddio rhywbryd rhwng 20 Chwefror a 3 Mawrth eleni, ddyddiau yn unig cyn ei bod i fod i fynd ar wyliau i Florida.

Wrth roi datganiad dioddefwr i'r llys dywedodd mab Mrs James, Jason, fod llofruddiaeth ei fam yn un creulon a dibwrpas.

"Roedd hi yn fam a nain garedig, a thyner. Dyw Kris Wade heb roi unrhyw eglurhad na dangos edifeirwch. Gallaf ond gweddïo ei bod hi yn anymwybodol pan ddaeth yr ergyd farwol.

"Rwyf ddim ond yn crio yn ddyddiol, rwyf yn crio bron bob awr ac mae fy mhlant wedi dioddef yn enbyd o golli eu nain."

Ffynhonnell y llun, Google

Yn ystod y gwrandawiad fe ymddanngosodd Wade, drwy gyswllt linc fideo o garchar Long Lartin, gan gadarnhau ei enw ar ddechrau'r achos.

Dywedodd Janine Davies ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd Wade wedi dangos unrhyw edifeirwch.

"Nid yw chwaith wedi cynnig unrhyw eglurhad am yr hyn a wnaeth. Fe wnaeth ymchwiliad trwyadl gan yr heddlu sicrhau fod gennym achos cryf yn erbyn Wade, gan arwain iddo bledio'n euog," meddai.

"Tra bod hyn wedi arbed y teulu rhag mynd trwy achos llawn, dyw'r ffaith ei fod wedi pledio'n euog ddim yn dadwneud y gofid ofnadwy y mae o wedi ei achosi."

Olion gwaed

Dechreuodd ymchwiliad yr heddlu wedi i berthnasau i Mrs James gysylltu i ddweud nad oedd hi wedi cyrraedd Maes Awyr Gatwick ar gyfer y daith i Florida.

Cafwyd hyd i'w chorff yng nghyntedd ei fflat. Roedd y drws heb ei gloi ac roedd olion gwaed yno.

Clywodd y rheithgor fod gwddf Mrs James wedi ei dorri ac roedd ganddi nifer o anafiadau eraill, oedd yn awgrymu fod rhywun wedi ei dyrnu, ei chicio neu sathru arni.

'Sgrechian a gweiddi'

Cafodd mwgwd ei ddarganfod ar y safle, sy'n cael ei gysylltu gyda gweithredoedd rhywiol sadomasocistaidd.

Clywodd y llys fod dyn oedd yn byw mewn fflat cyfagos wedi clywed "gweiddi neu sgrechian" o fflat Mrs James tua 15:00 ar 26 Chwefror, a'i fod yna wedi gweld dyn yn tywys cês du. Fe welodd y dyn hefyd yn cludo dau fag bin du.

Dywedodd ei fod, ar ôl i'r dyn fynd, wedi clywed rhywun yn crio y tu mewn i fflat Ms James, ond iddo gredu fod hyn o ganlyniad i ffrae rhwng cariadon.

Y diwrnod canlynol clywodd y llys fod y dyn wedi clywed rhagor o synau o'r fflat.

Yn ôl Paul Lewis, ar ran yr erlyniad, does dim modd gwybod yn bendant pryd y cafodd Ms James ei lladd.

Clywodd y llys fod Kris Wade, oedd yn byw yn y fflat uwchben Mrs James, wedi gwrthod gadael i'r heddlu fynd i mewn i'w fflat wrth iddyn nhw gynnal eu hymholiadau.

Arestio

Cafodd ei arestio ar 7 Mawrth yng nghartref ei rieni ym Mhentre'r Eglwys, ger Pontypridd.

Yn ei fflat, daeth yr heddlu o hyd i gês du, oedd ag olion gwaed Christine James arno.

Yno hefyd roedd clustlws a breichled, gydag olion gwaed. Roedd yno hefyd offer sadomasocistaidd.

Yn ôl yr erlyniad roedd yna dystiolaeth gref yn awgrymu fod yna gymhelliad rhywiol i'r llofruddiaeth.

Wnaeth Kris Wade ddim ymateb i gwestiynau pan gafodd ei holi, ac fe blediodd yn euog i lofruddiaeth yn gynharach ym mis Medi.