Trigolion Dyffryn Nantlle yn prynu eu siop leol
- Cyhoeddwyd
Mae cais trigolion Dyffryn Nantlle i brynu siop hanesyddol yng nghanol Penygroes wedi llwyddo.
Caewyd siop Griffiths ddiwedd 2010, ac yn fuan wedi hynny fe aeth grŵp cymunedol Dyffryn Nantlle 2020 ati i godi £70,000 i brynu'r adeilad.
Dywedodd Ben Gregory, Ysgrifennydd Dyffryn Nantlle 2020: "Cafwyd cadarnhad ddoe [ddydd Iau] ein bod wedi prynu'r hen siop. Rydym rŵan yn paratoi cais cynllunio fydd yn cael ei gyflwyno fis nesaf.
"Ar hyn o bryd rydym hefyd yn paratoi ceisiadau am arian gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri."
Y bwriad yw sefydlu llety, caffi, busnesau beics ac awyr agored yn y siop, ynghyd â lle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau digidol, lletygarwch, arlwyo a thwristiaeth.
1911
Mae Siop Griffiths yn un o'r adeiladau hynaf ym Mhenygroes. Ar un adeg roedd yn cael ei defnyddio fel gorsaf a dyma oedd un o'r gorsafoedd teithwyr cyntaf yn y byd.
Fe agorwyd Siop Griffiths yn 1911 gan Thomas Griffiths. Yn Waterloo House, Stryd y Dŵr, y lleolwyd hi gyntaf ac fe symudodd i'r lleoliad presennol yn 1925.
Gwerthai'r siop bob math o ddeunyddiau at ddefnydd ffermwyr a'r cartref - yn eu plith dodrefn, sosbenni, lampau olew, batris - a doedd hi ddim yn beth anghyffredin gweld bath yn hongian y tu allan hyd yn oed.
Mae llwyddiant y trigolion i brynu'r siop wedi cael ei groesawu'n lleol gan yr AC Siân Gwenllian a'r AS Hywel Williams.