Wrecsam v Caer: Canmol cefnogwyr am eu hymddygiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi diolch i gefnogwyr Wrecsam a Chaer am eu cydweithrediad a'u hymddygiad yn ystod y gêm ddarbi.
Roedd yr heddlu wedi rhybuddio cefnogwyr oedd yn mynychu'r Cae Ras i fihafio, ac o bosib pe bai hynny'n digwydd y byddai'r trefniadau diogelwch ar gyfer gemau'r dyfodol yn cael eu llacio.
Gorffennodd y gêm yn ddi-sgôr.
Ni chafodd unrhyw un ei arestio.
Cyn y gêm dywedodd Comisiynydd Heddlu'r Gogledd, Arfon Jones, y gallai ymddygiad da sicrhau y gallai'r cyfyngiadau gêm' bubble' gael eu codi yn y dyfodol.
Mae'r cyfyngiadau presennol yn golygu bod yn rhaid i gefnogwyr Caer gwrdd yn y ddinas cyn teithio i Wrecsam mewn bysiau swyddogol.
Dyma'r pedwerydd tymor yn olynol i'r cyfyngiadau fod mewn grym
'Difetha'r awyrgylch'
Pan mae'r Dreigiau yn chwarae oddi cartref yng Nghaer mae'n ofynnol iddyn nhw hefyd deithio ar fysiau swyddogol.
Yn ôl Mr Jones os bydd pethau'n mynd yn dda gallai'r cyfyngiadau gael eu codi, er budd i'r ddau glwb.
Dywedodd: "Os bydd trafferthion ddydd Sadwrn, mae'n amlwg y bydd yn rhaid i'r cyfyngiadau 'ma barhau.
"Mae'r cyfan yn difetha'r awyrgylch. Dim ond yn y gêm hon y mae'r fath gyfyngiadau yn bodoli.