Galw am fwy o nyrsys epilepsi arbenigol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
EpilepsiFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Does dim digon o nyrsys sy'n arbenigo ar gyflwr epilepsi yng Nghymru, medd elusen flaenllaw.

Yn ôl Epilepsy Action Cymru, mae angen 88 nyrs arbenigol er mwyn darparu gofal digonol i oedolion yng Nghymru.

Mae'r elusen yn dweud fod gwaith nyrsys epilepsi yn hanfodol wrth iddyn nhw ofalu am filoedd o bobl sy'n byw gyda'r cyflwr.

Yn 2007, fe argymhellodd grŵp adolygu arbenigol ar wasanaethau niwrowyddorau bod angen tua 88 nyrs yng Nghymru, gyda phob un yn gofalu am 300 o gleifion yr un.

Bron i 10 mlynedd ers yr argymhelliad hwnnw, dim ond naw sy'n gweithio yn y maes.

Mae'r elusen yn cynnal digwyddiad yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher i annog Aelodau Cynulliad i weithio gyda'r cyrff perthnasol, er mwyn sicrhau fod pobl sydd ag epilepsi yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw.

Disgrifiad,

Galw gan elusen am fwy o nyrsus epilepsi yng Nghymru

Darparu gwasanaethau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn amlinellu'r camau rydym yn eu cymryd i leihau'r anghysondeb mewn gwasanaethau, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n byw a chyflyrau fel epilepsi.

"Mae disgwyl i fyrddau iechyd fod â chynlluniau i ddarparu gwasanaethau wedi eu cydlynu ar gyfer y boblogaeth ac i bwysleisio'r blaenoriaethau o fewn y cynllun.

"Does yna ddim un model sengl ar gyfer gwasanaethau niwrowyddoniaeth, nid yw'r hyn sy'n gweithio mewn un man o reidrwydd yn gweithio mewn man arall.

"Rydym felly yn disgwyl i fyrddau iechyd ystyried mynediad i nyrsys niwrolegol arbenigol fel rhan o'u hasesiadau."