Bwrdd iechyd wedi diswyddo llofrudd am honiadau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd wedi cadarnhau fod dyn a gafodd ei garcharu'r wythnos ddiwetha am lofruddio gwraig yng Nghaerdydd, wedi colli ei waith gyda nhw yn dilyn honiadau o ymosodiadau rhyw ar gleifion.
Mewn datganiad, cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod Wade wedi ei gyflogi ganddyn nhw fel gweithiwr cynnal.
Cafodd ei ddiswyddo dair blynedd yn ôl yn dilyn cwynion ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar dri chlaf mewn uned i bobl ag anableddau dysgu.
Cadarnhaodd y bwrdd fod yr heddlu wedi ymchwilio i'r cwynion, ond na fuodd unrhyw gamau pellach.
'Synnu a ffieiddio'
Yn y datganiad, dywedodd y Bwrdd Iechyd: "Cawsom ein synnu a'n ffieiddio o glywed manylion y llofruddiaeth gafodd ei chyflawni gan Kris Wade, ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad â theulu'r dioddefwr.
"Gallwn gadarnhau fod Mr Wade wedi ei atal o'i waith fel gweithiwr cynnal yn dilyn honiadau gan dri chlaf yn Nhŷ Rowan, Trelai, Caerdydd, ei fod wedi ymosod yn rhywiol arnyn nhw.
"Rydym wedi cynnig ein ymddiheuriadau llaes i'r cleifion dan sylw, a'r loes yr achosodd ei weithredoedd.
"Fe wnaed yr honiad cyntaf ym mis Ionawr 2012 a chafodd Mr Wade amser o'r gwaith tra bo'r bwrdd iechyd yn cynnal adolygiad Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed gan sawl asiantaeth, gan gynnwys Heddlu De Cymru.
"Fodd bynnag, y casgliad ar y pryd oedd nad oedd digon o dystiolaeth i fynd â'r mater ymhellach.
Cwynion eraill
"Dychwelodd Mr Wade i'r gwaith mewn adran arall o'r bwrdd iechyd ym mis Ebrill 2012. Wnaeth e ddim dychwelyd i Dŷ Rowan, gan fod y claf oedd wedi cwyno yn dal i fod yno.
"Fe wnaed ail gwyn am ymosodiad rhyw yn ystod ei gyfnod yn Nhŷ Rowan ym mis Hydref 2012, a chafodd Mr Wade ei wahardd o'i waith. Fe wnaed trydedd cwyn, eto i'w wneud a'i gyfnod yn Nhŷ Rowan yn 2013.
"Bu Mr Wade o'r gwaith o fis Hydref 2012 tan iddo gael ei ddiswyddo yn gynharach eleni.
"Yn ystod ei waharddiad, cafodd ymchwiliadau POVA eu cynnal i'r ddau honiad newydd ynghyd ag ymchwiliad troseddol gan Heddlu De Cymru.
Adolygu prosesau
"Er na chafodd camau pellach eu cymryd gan yr heddlu, fe arweiniodd ymchwiliad disgyblaeth mewnol y Bwrdd Iechyd at derfynu cyflogaeth Mr Wade am gamymddwyn difrifol.
"Gallwn gadarnhau fod gwiriad cofnodion troseddol wedi ei gynnal cyn i Mr Wade gael ei gyflogi gyntaf yn Nhŷ Rowan yn 2005.
"Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw bryderon eraill yn ymwneud â'i ymddygiad.
"Fodd bynnag, byddwn yn adolygu'n prosesau er mwyn gweld a oes gwersi i'w dysgu."
Dywedodd Heddlu'r De: "Rhwng 2012 a 2013, ymchwiliodd Heddlu De Cymru i tri gwahanol honiad fod aelod o staff wedi ymosod ar gleifion yng Nghaerdydd.
"Fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, cafodd dyn, oedd yn ei dridegau ar y pryd, ei holi'n wirfoddol gan swyddogion. Ym mhob achos, yn dilyn cyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron, ni chymerwyd camau pellach."