Cewynnau budr: Cyngor Ynys Môn yn adolygu polisi
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymateb i feirniadaeth am bolisi casglu sbwriel trwy gyhoeddi "adolygiad" o'r polisi.
Ddydd Mawrth fe ddaeth i'r amlwg y byddai'r awdurdod yn gofyn i rieni plant o dan dair oed i ddangos tystysgrif geni'r plentyn os oedden nhw am gael eu biniau sbwriel wedi'u gwagio'n amlach na bob tair wythnos.
Bwriad y cyngor oedd casglu sbwriel arferol bob tair wythnos, ond fe fyddai sbwriel yn cynnwys cewynnau yn cael ei gasglu pob pythefnos (ar ôl dangos y dystysgrif).
Ond yn dilyn protest ar gyfryngau cymdeithasol fe ddywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod ddydd Mercher y bydd y polisi yn newid.
Cyfaddefodd y llefarydd eu bod wedi'u synnu gan yr ymateb, ond o ganlyniad i hynny y byddan nhw'n codi'r oed o dair i bedair, ac ni fydd rhaid cyflwyno tystysgrif geni.
Gall rhieni plant sydd â chyflyrau meddygol sydd dros dair oed wneud cais i ddefnyddio gwasanaeth gwaredu ar wahân.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2016