Gobaith yng nghanol y llwydni

  • Cyhoeddwyd

Dydd Sadwrn, 1 Hydref, bydd llawer o bobl ar draws y DU yn gwisgo llwyd, a hynny ar gyfer digwyddiad 'Wear Grey for a Day', dolen allanol - dydd sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â thiwmorau ymennydd.

Mae Lisa Rumble yn byw ym Mrynaman gyda'i gŵr a'u mab bach, Dyfan. Maen nhw wedi arddel y diwrnod yma ers blynyddoedd, gan fod gan Marc diwmor ar ei ymennydd. Cafodd Cymru Fyw sgwrs â Lisa am effaith hyn ar eu bywydau:

Ffynhonnell y llun, Lisa Rumble

"Deng mlynedd nôl, tua chwe mis i mewn i'n perthynas ni, dechreuodd Marc deimlo'n anhwylus (a na, dim y stress o fod gyda fi oedd e!) - yn cael pen tost, teimlo'n sâl, ac yn cael beth rydyn ni nawr yn ei wybod oedd yn partial seizures. Ar ôl llawer o nagio, aeth e at y doctor a chael diagnosis fod ganddo diwmor Gradd 2 ar yr ymennydd.

"Mae dros 60,000 o bobl yn byw â thiwmor ar yr ymennydd yn y DU, gyda 16,000 mwy yn derbyn y diagnosis bob blwyddyn. Ond doedden ni, fel y rhan fwyaf o bobl, ddim yn gwybod dim llawer am y peth, na sut fyddai yn ein heffeithio ni."

Llawdriniaeth a chemotherapi

"Dydyn nhw methu cymryd y tiwmor mas ond wyth mlynedd yn ôl, torron nhw ran fach mas er mwyn i'r doctoriaid ei astudio. Roedd e mor anodd gadael Marc yn yr ysbyty, yn gwybod bod y doctoriaid am agor ei ben lan! Mae gymaint yn gallu mynd o'i le gyda llawdriniaeth ar yr ymennydd.

"Hwnna oedd diwrnod hira' fy mywyd i a'i rieni ('odd e ddim lot o hwyl i Marc chwaith!) Ar ôl edrych ar y darn bach o'r tiwmor, roedden ni'n gwybod ei fod yn addas i dderbyn cemotherapi.

"Tua chwe mlynedd yn ôl, cawson ni'r newyddion fod y tiwmor wedi tyfu, felly roedd rhaid cael blwyddyn o chemo i'w stopio rhag tyfu mwy am y tro. Mae rhaid i Marc gael sgan bob chwe mis i gadw llygad ar y tiwmor, ac mae'r cyfnod yna yn anodd, gan ein bod rhaid i ni aros i weld os yw'r tiwmor wedi tyfu.

Ffynhonnell y llun, Lisa Rumble

"Yn ffodus, dydy e ddim wedi tyfu ers y chemo, ond os fyddai'n tyfu, byddai rhaid i Marc gael mwy o driniaeth. Roedd y flwyddyn o chemo yn un anodd iawn, yn enwedig gan fod yna newid mawr yn ei bersonoliaeth. Ond gan nad oes modd cael llawdriniaeth i dynnu'r tiwmor, does dim newid arall gyda ni.

"Ar hyn o bryd, mae'r tiwmor dal gradd 2, ond ein hofn mwyaf bob check-up yw bod y tiwmor bellach wedi cyrraedd gradd 3 neu hyd yn oed 4. Dyna pryd mae'r doctoriaid yn dechrau rhoi disgwyliad bywyd i ti o flynyddoedd neu fisoedd - ac wrth gwrs, dyma'r newyddion rydyn ni'n gobeithio byth ei glywed. Yr opsiwn wedyn byddai cael mwy o cemotherapi. Radiotherapi fyddai'r opsiwn diwethaf, oherwydd lleoliad tiwmor Marc."

O ddydd i ddydd

"Yr effaith fwyaf ar fywyd Marc o ddydd i ddydd yw'r epilepsi mae'r tiwmor yn ei achosi - mae'n cael nifer o wahanol fathau o ffitiau. Ac o ganlyniad, dydy e methu gyrru ac mae e ofn edrych ar ôl Dyfan ar ei ben ei hun, rhag ofn iddo gael ffit.

"Dyw ceisio dod o hyd i'r cocktail cywir o feddyginiaethau er mwyn cadw'r epilepsi o dan reolaeth ddim yn hawdd, ac mae'n gallu cymryd blynyddoedd. Gall rhai ohonyn nhw achosi mood swings, blinder ac acne (sy'n amlwg yn anodd i ddyn 32 oed!)

"Mae'r ffitiau yn amlwg yn ei wneud yn flinedig. Does ganddo ddim llawer o egni i wneud ymarfer corff - ac mae hyn yn anodd iddo, gan ei fod yn arfer bod yn eithaf actif.

Ffynhonnell y llun, Lisa Rumble

"Oherwydd y chemo, dydyn ni methu cael plant yn naturiol. Dyw e ddim yn digwydd i bawb, ond roedden ni'n anlwcus, yn anffodus. Aethon ni drwy IVF ac aros tair blynedd i gael Dyfan, gafodd ei eni yn Rhagfyr 2012."

Cadw trefn ar bethau

"Dydy ei gof ddim yn dda ar adegau 'chwaith. Mae e wedi datblygu strategau a dulliau i gofio, drwy roi reminders ar ei ffôn, a defnyddio calendrau digidol - mae technoleg yn help mawr.

"Mae ganddo focs tabledi dyddiol i sicrhau ei fod yn cofio cymryd popeth. Dyw e ddim wastad yn cofio pethau o'r gorffennol, fel ein dêt cynta, na chwaith rhai manylion o'n diwrnod priodas ni.

"Rydyn ni mor lwcus gyda gwaith Marc, gan eu bod yn anhygoel, drwy sicrhau bod e'n gallu ymdopi gyda'r amserlen ac yn gefnogol iawn. Mae Marc yn athro ardderchog a wir yn mwynhau ei swydd. Ni'n credu bod gweithio yn helpu cadw ei feddwl yn siarp ac yn rhoi strwythur dyddiol iddo. Mae e hefyd yn benderfynol o weithio achos dyw e ddim eisiau eistedd ar ei ben ôl yn y tŷ!

Ffynhonnell y llun, Brainstrust

Wear Grey for a Day

"Byddwn ni'n tri, a'n teuluoedd a ffrindiau, yn gwisgo llwyd ddydd Sadwrn, er mwyn codi ymwybyddiaeth am diwmorau ar yr ymennydd. Does dim digon o arian er mwyn cynnal ymchwil na thriniaethau arloesol fel proton therapy, a does yna bendant ddim digon o wybodaeth am y salwch. Dydy pobl ddim yn deall yr effeithiau hir-dymor, ac mae'n anodd iawn i bobl sydd yn diodde' i fyw bywyd cwbl normal, hyd yn oed os yw'r tiwmor wedi cael ei dynnu mas, neu os oedd e'n benign.

"Mae cael clywed bod yna diwmor yn dorcalonnus - i'r cleifion, eu teuluoedd a'u ffrindiau - ac maen nhw'n ffeindio'u hunain mewn sefyllfa gymhleth a diethr. Mae elusen Brainstrust wedi ein helpu ni drwy gynnig cyngor a chefnogaeth arbenigol i ni ddygymod â'n sefyllfa ni, felly rydyn ni'n ceisio eu helpu yn ôl, drwy hyrwyddo'r diwrnod yma."