Dim Ramsey yng ngharfan Cymru i Awstria a Georgia

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Ramsey (canol) wedi ennill 44 o gapiau i Gymru gan sgorio 11 o goliau

Nid yw Aaron Ramsey wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru i wynebu Awstria a Georgia yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Cafodd Ramsey anaf wrth chwarae i Arsenal ar ddiwrnod cynta'r tymor yn erbyn Lerpwl.

Does dim lle chwaith i Jonny Williams, sydd hefyd yn gwella o anaf.

Un newid sydd i'r garfan ers y fuddugoliaeth dros Moldova, wrth i Shaun MacDonald gymryd lle George Williams.

Un o chwaraewyr canol cae Caerlŷr, Andy King, neu Caerdydd, Emyr Huws, sy'n debygol o gymryd lle Ramsey yn y tîm.

Bydd Cymru yn wynebu Awstria yn Fienna ar 6 Hydref cyn croesawu Georgia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 9 Hydref.

Dechreuodd tîm Coleman eu hymgyrch gyda buddugoliaeth o 4-0 dros Moldova ddechrau Medi.

Disgrifiad,

Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Owain Llyr yn trafod y garfan

Llygredd

Yn y cyfamser mae Chris Coleman wedi rhoi ei ymateb yn dilyn ymddiswyddiad rheolwr tîm cenedlaethol Lloegr, Sam Allardyce yn dilyn honiadau ym mhapur newydd The Telegraph.

Mae ymchwiliad gan y papur wedi datgelu sawl achos honedig o dwyll ym myd pêl-droed ar y lefel uchaf yn Lloegr.

Dywedodd Coleman y dylai unrhyw un sy'n euog o lygredd mewn pêl-droed dderbyn gwaharddiad am oes.

"Os yw unrhyw un yn cael eu dal yna fe ddylid eu tynnu allan o'r gêm am byth a dyna ni, nos da," meddai.

'Barusrwydd'

Ychwanegodd: "Mae'n drist ond does gen i ddim parch o gwbl at unrhyw un sy'n cael eu dal.

"Os ydych yn ennill £50,000 y flwyddyn mae hyn yn gyflog da i'r dyn ar y stryd. Os ydych yn ennill £50,000 yr wythnos yna pam ydych yn chwilio am fwy? Barusrwydd yw e.

"Yn anffodus rydym ni i gyd yn cael ein pardduo gan yr un brwsh. Rydym i gyd yn gweithio mewn diwydiant lle mae llygredd ar y lefel uchaf.

"Ond beth ydym am wneud am y peth os yw rhywun yn cael eu dal? Ai dim ond cosb fach neu a fyddan nhw'n cael eu gwahardd?

"Os oes tystiolaeth yn erbyn rhywun ac maen nhw'n eu cael yn euog felly mae angen cael gwared ohonyn nhw ac ni ddylai nhw fyth gael dod yn ôl."

line break

Carfan Cymru

Wayne Hennessey, Daniel Ward, Owain Fôn Williams;

Ben Davies, James Chester, James Collins, Paul Dummett, Chris Gunter, Ashley Richards, Neil Taylor, Ashley Williams;

Joe Allen, David Edwards, Emyr Huws, Andy King, Tom Lawrence, Joe Ledley, Shaun MacDonald;

Gareth Bale, Simon Church, David Cotterill, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes.