Gwaith gan Syr Karl Jenkins i gofio trychineb Aberfan

  • Cyhoeddwyd
aberfan

Ar yr 21ain o Hydref, fe fydd hi union hanner canrif ers trychineb Aberfan.

Cafodd 116 o blant rhwng saith a 10 mlwydd oed, a 28 o oedolion, eu lladd pan lithrodd tomen lo i lawr o ben y mynydd a chladdu Ysgol Gynradd Pantglas a nifer o dai yn y pentref bach glofaol ger Merthyr Tudful.

Fe fydd gwaith corawl newydd gan y cyfansoddwr byd enwog Syr Karl Jenkins yn cael ei berfformio am y tro cyntaf nos Sadwrn yng Nghanolfan y Mileniwm mewn cyngerdd i gofio'r trychineb.

S4C sy'n gyfrifol am gomisiynu 'Cantata Memoria' a goleuni yw thema canolog y gwaith.

Sinfonia Cymru fydd yn perfformio'r darn gyda chôr cymysg o fwy na 150 o gantorion yn canu ochr yn ochr â chôr plant o 116.

Disgrifiad o’r llun,

Y Prifardd Mererid Hopwood

Y Prifardd Mererid Hopwood luniodd y libreto gan gyfuno tair iaith - y Gymraeg, Lladin a'r Saesneg: "Y cam cyntaf, ar un pwysicaf, oedd mynd i Aberfan gyda Karl Jenkins i gwrdd â chynrychiolaeth o'r trigolion oedd yno a chael rhyw fath o awgrym, o synnwyr, o beth oedd gyda nhw mewn golwg."

"Yn y lle cyntaf o'n i yn teimlo'n nerfus tu hwnt. Oedd rhywun yn ymwybodol iawn o'r cyfrifoldeb, yr awydd cryf i neud fy ngorau glas gyda Karl i greu rhywbeth oedd yn briodol urddasol, mas o barch a chydymdeimlad at y trigolion."

"Nid dogfen ffeithiol yw'r gwaith yma. Rhyw ddarn o farddoniaeth a cherddoriaeth yn dod at ei gilydd i geisio cyfleu sut y'n ni fel cenedl yn ymateb i Aberfan. Y gofid, y galar, yr ofn, yr arswyd, y parch a'r edmygedd ond falle mwy na dim y cydymdeimlad gyda'n cyd Gymry ni."

Disgrifiad,

Bryn Terfel a'r Cor

Nos Sadwrn, bydd rhai o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys y bas-bariton byd-enwog, Bryn Terfel, y delynores Catrin Finch, yr arbenigwr pres David Childs, a'r soprano Elin Manahan Thomas yn perfformio.

Yn ogystal â hynny, fe fydd y noson yn cynnwys darlleniadau o waith ysgrifenedig newydd ynghyd â pherfformiadau cymunedol arbennig gan Gôr Meibion Ynysowen a chorau ysgol o Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen ac Ysgol Rhyd y Grug.

Fe fydd y perfformiad yn cael ei ddarlledu nos Sul y 9fed o Hydref am 7.30yh ar S4C.

Y Parchedig Milton Jenkins

Disgrifiad,

Parchedig Milton Jenkins yn cofio Aberfan

Roedd y parchedig Milton Jenkins yn Aberfan ar 21 Hydref 1966.

Roedd gan ei gyfnither a'i gŵr, y gweinidog lleol y Parchedig Kenneth Hayes, ddau o blant yn 9 ac yn 8 oed oedd yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Pantglas.

Ar y bore dydd Gwener, arhosodd y plentyn 8 oed gartref ar ôl bod yn sâl y noson flaenorol, ond roedd yr hynaf, Dyfrig ar goll.

Aeth Mr Jenkins i'r pentref i helpu i chwilio amdano, cyn i gorff y plentyn gael ei ddarganfod o dan y domen lo.