Lluniau: Trychineb Aberfan // In pictures: The tragedy of Aberfan

  • Cyhoeddwyd

Ar 21 Hydref 1966 cafodd 144 o bobl eu lladd pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a chladdu ysgol gynradd a deunaw o dai ym mhentref Aberfan. O'r rheiny fu farw, roedd 116 yn blant rhwng saith a deg oed.

On 21 October 1966 a coal tip slid down a mountain and engulfed a primary school and 18 houses in the village of Aberfan - killing 116 children between the ages of seven and ten, and 28 adults. Half a century on, we look at some of the most powerful images of the tragedy's aftermath.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd plant Ysgol Gynradd Pantglas newydd orffen gwasanaeth boreol pan dorrwyd ar yr heddwch // It was the last day of school before half term when Pantglas Junior School was engulfed by an avalanche of coal

Ffynhonnell y llun, Fox Photos
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd stâd o argyfwng ei gyhoeddi yn y pentref a heidiodd pobl o bob rhan o Brydain i helpu // A state of emergency was announced in the village as people flocked from all over Britain to help

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i weithwyr gadw'n dawel ar adegau rhag ofn i unrhyw un glywed gweiddi ymysg y rwbel // An eerie silence often filled the air during the rescue effort as workers listened for any cries of help among the rubble

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o’r llun,

Corff yn cael ei gludo o'r dinistr gan wirfoddolwyr a phlismyn. Cafodd 29 o blant eraill eu cludo i'r ysbyty // A victim's body is carried away from the destruction. A further 29 children were taken to hospital and survived

Ffynhonnell y llun, Keystone/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i'r oriau fynd heibio roedd hi'n mynd yn fwy anhebygol bod unrhyw un a oedd wedi goroesi ar ôl // As the hours passed, workers began losing hope of finding any more survivors

Ffynhonnell y llun, Jim Gray
Disgrifiad o’r llun,

Bu gwirfoddolwyr a thimau achub yn gweithio'n ddiflino drwy'r nos i geisio achub pobl // Volunteers and emergency workers worked tirelessly through the night in search of any survivors

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o’r llun,

Teulu yn galaru mewn angladd torfol ar 28 Hydref 1966 // A bereaved family at a mass funeral for 81 of the victims, which was held seven days after the tragedy

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o'r cyrff wedi'u claddu wrth ochr ei gilydd // Many of the bodies have been buried beside each other

Ffynhonnell y llun, Chuck Rapoport
Disgrifiad o’r llun,

Bachgen yn chwarae ar ei ben ei hun mewn parc rhai wythnosau wedi'r gyflafan // A generation wiped out: American photographer Chuck Rapoport took this photo of a lonely young boy on a merry-go-round in Aberfan weeks after the disaster

Disgrifiad o’r llun,

Cofeb sydd i'w gweld yng Ngardd Goffa Aberfan heddiw // A plaque was revealed at the Aberfan Memorial Garden in 2006

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhesi o gerrig beddi gwyn yn rhoi syniad o faint y golled y diwrnod hwnnw // Rows of headstones in Aberfan cemetery mark the final resting places of those who died on that fateful day