Pam gwisgo'r pabi coch?
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos hon cafodd Castell Caernarfon ei orchuddio gan raeadr o babïau coch i goffáu canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r cerflun, y Weeping Window, wedi ei wneud o 1,000 o flodau pabi coch seramig. Mae'r coch yn symbol o'r gwaed a gollwyd gan filwyr Prydeinig yn ystod y Rhyfel Mawr.
Bellach, mae'n draddodiad i ffigyrau cyhoeddus a thrigolion ar hyd a lled y wlad wisgo'r pabi coch fel arwydd o barch - ond pam fod gymaint yn gwrthod gwneud?
Mae Anna Jane yn byw yng Nghaernarfon, ac mae ganddi deimladau cryf ar y defnydd o'r pabi coch.
"Ro'n i yng Nghastell Caernarfon diwrnod o'r blaen ac roedd y pabis coch yn hynod effeithiol," meddai, "ond dim ond un ochr mae'n gofio a 'da ni mewn perygl o fod yn hybu rhyfel ac nid heddwch.
"Mi fydda i'n gwisgo'r pabi gwyn am ei fod yn cofio pawb yn hytrach na dim ond milwyr. Roedd fy hen ewythr yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf ond mae'n bwysig cofio yr holl ddinasyddion diniwed sy'n cael eu lladd, ac mae hynny'n digwydd yn amlach erbyn hyn."
'Propaganda'
"Dwi ddim isio dangos dim amharch i neb - os fyswn i'n meddwl bod peidio gwisgo [pabi coch] yn dangos amharch, yna mi fyddwn i'n gwisgo un," ychwanegodd.
"Mae'r BBC yn ofnadwy erbyn hyn ac mae 'na elfen o bropaganda gan y llywodraeth. Maen nhw'n helpu i greu elusen fel Help the Heroes - creu busnes mewn gwirionedd - er mwyn recriwtio a dydy o ddim yn iawn.
"Tydi'r llywodraeth ddim yn gofalu amdanyn nhw [y milwyr] pan maen nhw'n dod yn ôl o'r rhyfel - mae'n gwbl annigonol. Dydan ni fel cymdeithas ddim yn gwneud digon i ofalu am ein milwyr felly rhagrith ydy'r pabis coch.
"Mae bron yn teimlo fel rhyw deyrnfradwriaeth i beidio gwisgo un. Mae'n hollol droëdig fod pobl sydd ddim yn gwisgo'r pabi coch yn cael eu portreadu fel eu bod nhw'n dangos amharch a fod pobl yn gwneud chi allan fel eich bod chi 'ddim yn sefyll efo un o'r hogia''."
'Coch am byth'
Un sy'n credu'n gryf o blaid gwisgo'r pabi coch yw Ifor Williams o Lanbedr Pont Steffan.
Dywedodd: "Aeth fy wncwl a fy nhad i'r rhyfel a bu farw Dad flynyddoedd wedyn ar ôl cael ei anafu.
"Ges i fy nhynnu lan drwy system y cadets felly dwi'n cymryd y peth yn ganiataol i wisgo'r pabi coch erbyn hyn.
"Fi'n cofio mynd i weld Tŵr Llundain yn 2014 a gweld y pabïau yn llifo mas - fel sydd wedi digwydd yng Nghaernarfon wythnos 'ma - wel, roedd hynny mas o'r byd 'ma. Roedd e'n rhoi'r pictiwr yn fyw yn eich meddwl chi o faint o waed gafodd ei golli."
Yn 2014 fe wnaeth Ifor, sy'n gynghorydd yn Llambed, a'i ffrind Gwynfor seiclo yr holl ffordd o Lambed i Baris i godi arian i'r Lleng Brydeinig gan lwyddo i godi dros £8,000 yn y broses.
"Ma' 'da pob un ei farn - does gen i ddim byd yn erbyn y pabi gwyn ond doedd hwnnw ddim yn rhan o fywyd yn yr hen ddyddie," meddai.
"Coch fydde i am byth. Dwi'n teimlo fod y coch yn dangos y gwaed gafodd ei golli - dyw'r pabi gwyn ddim yn gwneud hynny."
Yn ôl llefarydd ar ran BBC Cymru, mae'n "benderfyniad personol" os yw cyflwynwyr neu ymwelwyr yn dewis gwisgo'r pabi coch neu beidio.