Trydaneiddio yn 'parhau i fod yn brif flaenoriaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae trydaneiddio'r brif reilffordd rhwng de Cymru a Llundain yn parhau i fod yn "brif flaenoriaeth" i lywodraeth y DU, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.
Rhoddodd Alun Cairns ei ymrwymiad cyn iddo ymweld â safle uwchraddio yn Nhwnnel Hafren.
Bydd hefyd yn amlygu pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth i'r economi mewn araith gerbron arweinwyr busnes yng Nghaerdydd.
Bydd Mr Cairns yn dweud y bydd y manteision o drydaneiddio'r rheilffordd yn "gorbwyso" y chwe wythnos bu'r twnnel ynghau.
"Bydd ein cyfraniad o £500m i ddinas Caerdydd yn cefnogi trydaneiddio rheilffyrdd y cymoedd, ac yn ychwanegu at gynllun gwerth £ 1.2bn i hybu seilwaith ar draws de ddwyrain Cymru," meddai.
Caerdydd a Canary Wharf
"Bydd Crossrail [yn Llundain] yn gwella'r amserau teithio byrrach a gynigir gan drydaneiddio'r brif linell - gan ddod â Chaerdydd yn agosach at Canary Wharf.
"Rydym hefyd yn buddsoddi i gysylltu maes awyr Heathrow a phrif linell y 'Great Western', gan dorri hanner awr oddi ar y daith rhwng Heathrow a de Cymru."
Bydd Mr Cairns hefyd yn amlygu addewid llywodraeth y DU i haneru tollau ar bontydd Hafren pan fyddant yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus yn 2018.
Yn 2015, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Patrick McLoughlin ei fod yn gobeithio y byddai'r prif linell yn cael ei thrydaneiddio cyn belled ag Abertawe erbyn 2020 neu 2021. Ar ôl hynny, dywedodd Network Rail y byddent yn cwblhau'r uwchraddio rhwng Llundain a Chaerdydd erbyn Mawrth 2019.
Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi enwi pedwar cynigydd sydd yn cael eu ffafrio yn y gystadleuaeth i redeg y rhwydwaith reilffordd Cymru a'r Gororau o Hydref 2018.