Ateb y Galw: Lowri Morgan
- Cyhoeddwyd
Lowri Morgan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Tanni Grey-Thompson yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Mwynhau'r wefr o seiclo rownd a rownd y tŷ gyda fy mrawd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Tom Cruise yn Top Gun.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rhedeg mas i'r cae rygbi tra'n chwarae i Gymru, a thra'n edrych i fyny at yr eisteddle ac at fy nheulu, fe wnes i redeg yn syth i mewn i'r polyn fflag. Roedd hwn cyn dyddiau cyfryngau cymdeithasol, diolch byth!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Gwylio a darllen am hanes trychineb Aberfan.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, ond dwi am dwi ddim am eu datgelu!
P'run yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
Gŵyr - yr ardal lle cefais fy magu a fy maes chwarae antur.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Fy mharti priodas.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Penderfynol, gonest, cyfeillgar.
Beth yw dy hoff lyfr?
To Kill A Mockingbird gan Harper Lee.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Esgidiau rhedeg.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welsast di?
Heb wylio ffilm ers sbel hir ond yn mwynhau gwylio'r gyfres Westworld ar hyn o bryd.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Anna Paquin (ma hi, fel fi wedi rhedeg sawl milltir gyda'r pram).
Dy hoff albwm?
A Rush Of Blood To The Head - Coldplay. Dwi'n edrych mlaen i'w gweld yn perfformio'n Nghaerdydd flwyddyn nesa'.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?
Pwdin - unrhyw bwdin gwych Mam.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
David Rudisha
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Ffion Dafis