Cyflwr niwrolegol: Merch yn 'sownd yn y system'

  • Cyhoeddwyd
Jordana King

Mae teulu merch gafodd driniaeth am gyflwr niwrolegol wedi mynegi eu rhwystredigaeth ei bod hi'n dal mewn ward ysbyty, mis wedi ei thriniaeth.

Mae Jordana King, 17 oed, yn disgwyl i gael ei symud o adran niwroleg Ysbyty Treforys er mwyn dechrau therapi adsefydlu i'w helpu i ddod at ei hun.

Cafodd y ferch o Bort Talbot driniaeth am ddau fath o lid ar yr ymennydd - neu enceffalitis - sydd wedi niweidio ei hymennydd.

Dywedodd y teulu wrth raglen Newyddion 9 eu bod yn poeni y gallai oedi'r Gwasanaeth Iechyd wrth benderfynu ble i'w hanfon nesaf leihau'r tebygolrwydd y bydd hi'n gwella'n llawn.

Ond mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn dweud bod cyflwr Ms King yn gwella a bod angen ystyried os oes rhaid iddi fynd i uned adsefydlu arbenigol ai peidio.

Disgrifiad,

Angharad King, chwaer Jordana, yn siarad am brofiad ei theulu

Cafodd Ms King ei gyrru i'r ysbyty ym mis Mehefin, ac ar un pwynt doedd hi ddim yn gallu bwyta, yfed nac ymolchi oherwydd effaith yr enceffalitis.

Nawr ei bod hi'n bod gwella fe allai gael ei gyrru i uned adsefydlu fyddai'n cynnig therapi lleferydd, galwedigaethol a ffisiotherapi.

Mae ei theulu'n dweud y gallai'r oedi cyn penderfynu os bydd hi'n mynd i'r fath uned leihau'r tebygolrwydd y bydd hi'n gwella'n llawn.

'Mynd yn angof'

"Mae hi'n sownd yn y system," meddai tad Jordana, Darol King.

"Dydyn ni ddim yn gallu siarad â [ysbyty] Llandochau oherwydd dyw hi ddim yno eto.

"Dydi Treforys ddim yn gallu gwneud unrhyw beth - maen nhw wedi gwneud popeth y gallan nhw."

"Dydi'r ymgynghorydd ddim yn gallu gwneud mwy am mai ymgynghorydd meddygol ydi o, felly mae hi'n mynd yn angof ar drugaredd pwy bynnag mewn gwirionedd."

Opsiynau

Ond dywedodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg mewn datganiad nad ydi hi'n eglur eto ble y gallai hi dderbyn triniaeth adsefydlu.

"Rydym wedi bod yn gofalu am Jordana yn Ysbyty Treforys am rai misoedd ac rydym yn hapus i weld bod ei chyflwr yn gwella - er bod 'na ffordd hir o'i blaen", meddai'r datganiad.

"Gan fod cynnydd Jordana yn dda, rydym yn diweddaru ei chynllun gofal yn gyson.

"Mae Jordana angen therapi llefaredd ac iaith, ond dyw hi ddim yn glir, oherwydd ei chynnydd, os oes rhaid iddi fynd i Landochau am ofal arbenigol neu os gellid darparu'r gofal hwnnw yn nes at adref.

"Mae hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a bydden ni'n parhau i drafod yr holl opsiynau sydd ar gael gyda'i theulu."