Elis-Thomas wedi gadael am ddiffyg cydweithio â Llafur

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yr Arglwydd Elis-Thomas yn egluro ei benderfyniad i adael Plaid Cymru

Mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod wedi gadael Plaid Cymru am nad oedd grŵp y blaid yn fodlon chwarae rôl mwy "cadarnhaol" gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn dilyn etholiad y Cynulliad.

Fe wnaeth y cyn-arweinydd adael y blaid nos Wener, gan ddweud wrth gangen leol o'r blaid y bydd yn eistedd fel aelod annibynnol ym Mae Caerdydd.

Mae Plaid Cymru wedi galw am is-etholiad yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd cyn gynted ag y bo modd.

Ond dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas wrth BBC Cymru ddydd Sadwrn nad oes unrhyw fwriad ganddo i gamu o'r neilltu.

Yn y gorffennol, mae cyn-lywydd y Cynulliad wedi cael ei ddisgyblu gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, am feirniadu polisïau'r blaid.

Yn sgil ei benderfyniad, mae gan Blaid Cymru 11 aelod yn y Cynulliad - yr un nifer â'r Ceidwadwyr.

'Llywodraeth sefydlog'

Yn egluro ei benderfyniad i adael y blaid, dywedodd wrth BBC Cymru: "Rwy'n credu ei bod yn bwysig i Gymru gael llywodraeth sefydlog, yn enwedig yn dilyn yr holl ddadlau am ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd.

"Mae hi'n glir i mi... nad oes unrhyw fwriad gan Plaid i chwarae rhan fwy cadarnhaol yn y Cynulliad na'r hyn y mae wedi bod yn chwarae hyd yn hyn.

"Fe wnes i benderfynu felly, os nad oedd y blaid yn barod i gael trafodaeth o ddifrif gyda'r llywodraeth, y dylwn i ystyried fy safle.

"Dylai busnes yn y Cynulliad ddim cael ei ddefnyddio fel ffordd o barhau dadlau rhwng pleidiau gwleidyddol - parhau gyda'r etholiad mewn ffordd wahanol."

Disgrifiad,

Mae Dafydd Iwan yn feirniadol o'r Arglwydd Elis-Thomas a'i benderfyniad

Ychwanegodd bod y bleidlais i ethol Prif Weinidog, ble wnaeth Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ag UKIP bleidleisio dros Leanne Wood i atal Carwyn Jones am gyfnod, wedi bod yn broblem iddo hefyd.

"Roeddwn i yn meddwl bod yr hyn wnaeth Plaid gyda'r Ceidwadwyr ag UKIP, heb i mi wybod, ar y mater o ethol Prif Weinidog... yn gwbl amhriodol," meddai.

"Mae hi'n ymddangos bod pethau wedi datblygu yn yr un modd o hynny allan.

"Hyd yn oed y trafodaethau sydd wedi cael eu cynnal ar faterion cyfansoddiadol, dydw i ddim yn meddwl bod ymrwymiad clir a chryf o fewn y grŵp i gymryd cyfrifoldeb am y pethau yma."

Ychwanegodd nad oedd yn fwriad ganddo i ymuno â'r blaid Lafur.

'Camarwain'

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Bydd Plaid Cymru'n cychwyn y broses o ddewis ymgeisydd newydd yn Nwyfor Meirionnydd yn dilyn penderfyniad Dafydd Elis-Thomas i adael grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad."

Maen nhw'n ychwanegu bod yr Aelod Cynulliad wedi "camarwain" yr etholwyr yn yr etholiadau diweddar, ac y byddai'r etholwyr "yn disgwyl is-etholiad cyn gynted ag y bo modd".

Fe ddywedodd cangen Dwyfor Meirionnydd o'r blaid eu bod am ddiolch iddo "am ei wasanaeth i'r Blaid ac i'r ardal" a "datgan ein siom a'n tristwch ei fod yn gadael y Blaid". Ond fe ategon nhw alwad y blaid am is-etholiad.

Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth yn ymateb i'r newyddion bod Dafydd Elis-Thomas wedi gadael Plaid Cymru

Fe wnaeth AC Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth ychwanegu at y galwadau i gynnal is-etholiad mewn sgwrs gyda'r BBC fore Sadwrn.

"Y peth moesol i'w wneud, wrth gwrs, ydi i alw is-etholiad," meddai.

"Mae pob mathau o resymau mae pobl yn pleidleisio dros ymgeisydd mewn etholiad, ac wrth reswm, mae pa blaid y maen nhw'n ei gynrychioli yn rhan fawr o hynny.

"Mi ddylid cael is-etholiad rŵan, a dyna pam fod y blaid yn lleol, yn ei siom, yn galw am hynny."

'Siomi llawer'

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth bod y blaid wedi gofyn i'r Arglwydd Elis-Thomas ychydig fisoedd cyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai os oedd yn parhau'n driw i'r blaid, ac fe atebodd ei fod.

"Fisoedd yn unig cyn yr etholiad pan gafodd Dafydd ei herio ynglŷn â'i deyrngarwch i Blaid Cymru, mi wnaeth o ddweud fod y teyrngarwch hwnnw yn dal yno, ac mi wnaethon nhw ar sail hynny ei ddewis o i sefyll eto yn yr etholiad," meddai.

"Bum mis yn unig ar ôl yr etholiad, mae o'n penderfynu eu gadael nhw i lawr, a dwi'n meddwl bod hynny yn siomi llawer iawn o bobl yn Nwyfor Meirionnydd sydd wedi gweithio'n galed drosto fo.

"Mi fydd 'na deimlad o wir siom na wnaeth Dafydd gymryd y cyfle i sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiad ym mis Mai os mai dyna oedd ei fwriad o."

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Ymateb rhai o ffigyrau mwyaf blaenllaw Plaid Cymru i'r newyddion

'Hunanol'

Roedd cyn lywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan yn feirniadol iawn o benderfyniad yr Arglwydd Elis-Thomas ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddweud nad oedd yn fodlon rhoi'r blaid a'r genedl "o flaen ei ego ei hun".

Dywedodd wrth BBC Cymru'n ddiweddarach: "Fy ymateb cyntaf i oedd tristwch a siom o weld cydweithiwr ers dros 20 mlynedd, sydd wedi gwneud cyfraniad mawr, yn troi ei gefn ar y blaid.

"Ar y llaw arall 'da ni wedi ymatal rhag ymateb i rai o ddatganiadau Dafydd ers blynyddoedd er mwyn osgoi ffrae gyhoeddus, ac mae hyn gam yn rhy bell.

"Y ffaith amdani, er ei holl allu a'i holl gyfraniad, dydi Dafydd erioed wedi llwyddo i roi ei achos a'i blaid a'i genedl ei hun o flaen ei les hunanol ei hun."

Mae AC Plaid Cymru ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price wedi ymateb hefyd, gan ailadrodd y galw am is-etholiad.

Dywedodd ar Twitter, dolen allanol: "Fel sosialydd gynt mae'n siŵr y bydd Dafydd Elis Thomas yn cytuno i is-etholiad. Hanfodol i gynnal ffydd pobl yn y broses ddemocrataidd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi ymosod ar arweinyddiaeth Leanne Wood ar fwy nac un achlysur

Mae gan benderfyniad yr Arglwydd Elis-Thomas oblygiadau ar gyfer cydbwysedd y pleidiau yn y Cynulliad - gyda Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr nawr ag 11 sedd yr un.

Mae hynny'n codi cwestiynau am ba blaid yw'r wrthblaid swyddogol - a does dim enghraifft flaenorol o hyn yn digwydd ers sefydlu'r Cynulliad.

Fe allai AC Dwyfor Meirionnydd ymuno â llywodraeth Carwyn Jones. Pe bai hynny'n digwydd, byddai gan Lywodraeth Cymru fwyafrif clir o 29 o aelodau - 27 aelod Llafur, y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams, a'r Arglwydd Dafydd-Elis Thomas.

Byddai hefyd yn golygu nad yw'r cytundeb newydd ble mae Llywodraeth Cymru'n ymgynghori â Phlaid Cymru ar ddeddfwriaeth, cyllid a materion cyfansoddiadol yn angenrheidiol.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi awgrymu y dylai Plaid Cymru roi'r gorau i ddefnyddio'r teitl o wrthblaid swyddogol nawr bod gan y ddwy blaid yr un nifer o ACau.

Dywedodd llefarydd: "Mae hi fel dynion moel yn brwydro dros grib. Dydyn ni ddim am frwydro dros y teitl - ond mae hi un ai angen cael ei rannu gan Plaid neu ei ollwng."

Beirniadaeth

Fe safodd yr Arglwydd Elis-Thomas yn erbyn Leanne Wood ac Elin Jones am arweinyddiaeth y blaid yn 2012 - ac mae wedi beirniadu strategaeth y blaid ar sawl achlysur.

Y llynedd, dywedodd na allai feio'r etholwyr am ddewis Llafur yn lle Plaid Cymru, ac fe gollodd ei swydd fel cadeirydd pwyllgor amgylchedd y Senedd yn 2014 ar ôl beirniadu ymosodiadau Leanne Wood ar UKIP.

Disgrifiad o’r llun,

Tri yn San Steffan (o'r chwith i'r dde): Dafydd Wigley, Gwynfor Evans a Dafydd Elis-Thomas

Roedd Dafydd Elis-Thomas yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd - Meirionnydd Nant Conwy yn ddiweddarach - rhwng 1974 a 1992, pan ddaeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.

Mae wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999, ac ef oedd Llywydd cyntaf y Cynulliad - tan 2011.

Bu'n arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 a 1991.

Fe fydd cynhadledd Plaid Cymru'n cael ei chynnal yr wythnos nesaf yn Llangollen.