Elis-Thomas: 'Plaid Cymru angen ystyried ei dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dafydd Elis-Thomas yn cyhuddo Plaid Cymru o fethu ag ymateb i'r newidiadau ers datganoli

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd Plaid Cymru yn ystyried ei dyfodol fel plaid wleidyddol, ar ôl iddo benderfynu eistedd fel AC annibynnol.

Fe wnaeth y cyn-arweinydd adael Plaid Cymru nos Wener, gan ddweud wrth gangen leol o'r blaid y bydd yn eistedd fel aelod annibynnol ym Mae Caerdydd.

Mae Plaid Cymru wedi galw am is-etholiad yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd cyn gynted ag y bo modd.

Fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas gyhuddo'r blaid o fethu ag ymateb yn ddigon da i'r newidiadau yng Nghymru ers datganoli.

Dywedodd wrth BBC Cymru ddydd Sul: "Mae gen i ofn mai Plaid Cymru sydd wedi addasu lleiaf i'r newidiadau aruthrol sydd wedi digwydd ym mywyd Cymru ers datganoli.

"Mae'r Ceidwadwyr wedi dod yn fwy Cymreig, mae'r blaid Lafur yn brysur yn cryfhau ei hannibyniaeth ei hun oddi wrth Lundain, mae'r Rhyddfrydwyr, wrth gwrs, yn ffederal.

"Ond mae Plaid Cymru, mae gen i ofn, yn dal i feddwl mai hi ydi unig blaid Cymru. Mae gan Gymru sawl plaid."

Gwrthod ymddiswyddo

Yn siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul Radio Cymru gofynnwyd iddo a oedd bwriadu ganddo i gamu o'r neilltu.

"Does dim achos cyfansoddiadol dros gynnal is-etholiad," meddai. "Dydw i ddim wedi ymuno ag unrhyw blaid arall.

"Mi wnaeth yr etholwyr, oedd ddim yn aelodau o unrhyw blaid, bleidleisio i mi, ac felly mae gen i ddyletswydd gyntaf i 47% o'r etholwyr bleidleisiodd i mi, ac i bob etholwr arall.

Ychwanegodd bod ganddo fandad i aros fel aelod annibynnol am fod deunydd a ffurflenni ei ymgyrch wedi gosod ei raglen yn glir.

Ymateb Plaid Cymru

Mae ffigyrau blaenllaw Plaid Cymru fel AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price a'r cyn lywydd, Dafydd Iwan wedi galw ar yr Arglwydd Elis-Thomas i ymddiswyddo fel AC a chynnal is-etholiad.

Roedd Mr Iwan yn feirniadol iawn o benderfyniad yr Arglwydd Elis-Thomas, gan ddweud nad oedd yn fodlon rhoi'r blaid a'r genedl "o flaen ei les hunanol ei hun".

"Mae hi'n ergyd, wrth gwrs, i golli unrhyw aelod, ond mi fydd hi'n haws i ni symud ymlaen yn unol o hyn ymlaen," meddai.

"Bron yn flynyddol, cyn y gynhadledd, mae Dafydd yn gwneud rhywbeth neu yn dweud rhywbeth sy'n tynnu sylw oddi wrth ein prif neges ni.

"Mi fydd hi'n haws i ni weithio gyda'n gilydd i gael prif neges y blaid allan o hyn ymlaen heb orfod edrych dros ein hysgwydd i weld beth mae Dafydd yn mynd i wneud.

"Dwi'n dymuno'n dda iddo, ond y peth anrhydeddus iddo wneud nawr ydi sefyll i lawr a chael is-etholiad."

'Trafodaethau'

Wrth siarad ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Llun, roedd cyn AC ag AS Plaid Cymru, Cynog Dafis yn feirniadol o'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Dywedodd Mr Dafis nad oedd wedi ei synnu gan ei ymadawiad, a'i fod yn ymwybodol fod yr Arglwydd Elis-Thomas wedi bod mewn trafodaethau gyda'r blaid Lafur ym mis Awst am fod yn aelod annibynnol o'r Cynulliad.

Ychwanegodd Cynog Dafis ei fod wedi gadael i swyddogion Plaid Cymru wybod am hyn, a'i fod yn teimlo rhywfaint o ryddhad fod yr Arglwydd Elis-Thomas wedi gadael y blaid o'r diwedd.

Disgrifiad,

Mae Dafydd Iwan yn feirniadol o'r Arglwydd Elis-Thomas a'i benderfyniad

Dywedodd Mr ap Iorwerth mai'r peth "iawn" i'r Arglwydd Elis-Thomas wneud fyddai caniatáu is-etholiad.

"Mae pobl sydd wedi gweithio'n agos gydag ef yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael i lawr ac yn siomedig, ac maen nhw'n dweud y dylen ni gael pleidlais arall, pleidlais fwy gonest y tro yma," meddai.

'Cymryd cyfrifoldeb'

Fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas ehangu ar ei resymau dros adael y blaid, a hynny oherwydd diffyg cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru.

"Rwy'n siomedig nad ydi grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad fel tasan nhw'n fodlon derbyn cyfrifoldeb, neu gydgyfrifoldeb, am lywodraethu Cymru," meddai.

"Mae gennym ni'r Llywodraeth Lafur mwyaf lleiafrifol erioed, er mai Llafur Cymru yw'r blaid fwyaf, ac felly yn y sefyllfa yna dwi'n meddwl ei bod hi'n ddyletswydd ar aelodau etholedig, ar ôl etholiad, i drafod a gweld sut allan nhw gydweithio.

"Fel mae'r prif weinidog wedi dweud sawl gwaith, mae 80% o raglen Plaid Cymru a'r blaid Lafur yn rhaglenni sy'n cyd-fynd â'i gilydd.

"Y newid mawr sydd wedi achosi consyrn mawr i mi, yw beth sy'n mynd i ddigwydd rŵan i ddatganoli yng Nghymru yn dilyn penderfyniad pobl Cymru a phobl Lloegr i adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Dydw i ddim yn meddwl bod pobl wedi ystyried o ddifrif y gallwn ni golli pwerau o bwys mawr, yn enwedig dros gefn gwlad ag amaethyddiaeth."

'Dim bwriad ymuno â Llafur'

Yn sgil ei benderfyniad, 11 aelod sydd gan Blaid Cymru yn y Cynulliad - yr un nifer â'r Ceidwadwyr.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei fod wedi cael cyfres o drafodaethau gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones am faterion cyfansoddiadol oherwydd ei rôl flaenorol yn Nhŷ'r Arglwyddi yn ogystal â Phlaid Cymru, ond nad oes unrhyw gytundeb gyda Llafur iddo ymuno â'r llywodraeth.

"Does dim bwriad gen i i ymuno â'r blaid Lafur o gwbl a dydw i ddim yn credu y byddai'r blaid Lafur yn disgwyl i mi wneud hynny," meddai.

"Mae hi'n wir i ddweud, wrth gwrs, 'mod i wedi bod yn agos iawn at yr elfen Gymraeg a Chymreig yn y blaid Lafur ers blynyddoedd... ond does dim rhaid ymuno â'r blaid Lafur i hyrwyddo Cymru pe byddai pobl yn fodlon cydweithio, a hynny sy'n ofid i mi."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhodri Morgan bod y datblygiadau'n rhoi Llafur mewn safle llawer cryfach

Ond dywedodd y cyn brif weinidog, Rhodri Morgan wrth Sunday Politics Wales bod penderfyniad yr Arglwydd Elis-Thomas i adael yn golygu bod Llafur mewn safle llawer cryfach.

"Dydyn nhw ddim mor ddibynnol nawr bod Plaid wedi colli eu dylanwad. Dyna yw'r peth allweddol," meddai.

"Mae hi'n anhygoel - mewn corff bychan fel y Cynulliad gyda 60 sedd yn unig, a gyda Llafur â 30 ohonyn nhw - cymaint o wahaniaeth y gall un person ei wneud.

"Nawr, mae Llafur un bleidlais yn fyr o allu cael cyllideb trwodd."