"Codi llais gyda'n gilydd"

  • Cyhoeddwyd
Mae Llinos Dafydd yn datgelu ei p[hrofiadau yn gyhoeddus am y tro cyntafFfynhonnell y llun, Llinos Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Dafydd yn datgelu ei phrofiadau yn gyhoeddus am y tro cyntaf

Mae camdrin merched wedi cael sylw mawr yn y wasg dros y penwythnos yn dilyn achos llys Ched Evans a sylwadau'r ymgeisydd arlywyddol, Donald Trump. Mae'r ddwy stori wedi achosi gwewyr meddwl i'r awdur a'r newyddiadurwraig Llinos Dafydd o Benrhiwllan, Ceredigion.

Am y tro cyntaf yn gyhoeddus mae Llinos yn trafod y digwyddiad erchyll pan gafodd hi ei hun ei threisio:

'Clymau yn fy stumog'

Dros y penwythnos, mae clymau wedi bod yn fy stumog. Dw i wedi colli ambell ddeigryn. Ac mae atgofion anghyfforddus wedi llifo yn ôl.

Hyn oll oherwydd yr holl sylw i dreisio a cham-drin menywod sydd wedi bod yn y wasg.

Yn gyntaf yn ras Arlywyddol yr Unol Daleithiau, lle mae cyhuddiadau o dreisio a cham-drin wedi eu taflu gan y ddwy ochr. Ac yna'r holl sylw i achos y chwaraewr pêl-droed, Ched Evans, yma yng Nghymru.

Does neb yn gwybod yr union wirionedd yn yr achosion hyn. Ond mae parodrwydd rhai i feio'r merched sy'n honni iddynt gael eu cam-drin, a hynny heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi eu safbwynt, wedi peri loes ddofn i mi.

Rwy'n pryderu y bydd penawdau fel hyn, a'r boen ychwanegol y mae'r merched hyn wedi ei ddioddef yn sgil camu ymlaen, yn annog merched eraill sydd wedi eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol i gadw'n dawel, a pheidio mynd at yr awdurdodau.

Dw i'n un o'r merched hynny, dw i'n un o'r dioddefwyr, dw i wedi cael fy nhreisio - ac mae'n bryd i mi hefyd godi llais am y peth.

Ffynhonnell y llun, Llinos Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Llinos a'i theulu

'Poenus o erchyll'

Nid ar chwarae bach dw i'n cyfaddef - mae bron i ugain mlynedd ers i fachgen ysgol fy nhreisio, a dim ond llond llaw o deulu a ffrindiau agos sy'n gwybod. Dw i ddim hyd yn oed wedi agor fy nghalon i'r rheiny go iawn, chwaith, am fod y profiad mor boenus o erchyll o hyd.

Dw i erbyn hyn yn fam i dair o ferched dan 10 oed. Dw i mewn perthynas gariadus, a dw i'n hapus fy myd. Ond mae'r atgof o gael fy nhreisio yn gwmwl parhaol drosaf i, ac ydy, dw i'n cyfaddef, mae'n parhau i gael effaith ar fywyd rhywiol.

Y cyfan oll oherwydd un digwyddiad bron i ugain mlynedd yn ôl, pan o'n i'n 14 oed. Ymosodiad gan ddieithryn mewn maes parcio oer, gwag a thywyll. Pum munud o weithred oedd hi, er roedd e'n teimlo fel tragwyddoldeb ar y pryd.

Efallai bod y bachgen oedd yn gyfrifol wedi anghofio am y peth erbyn y bore nesaf. Ond mae'r ychydig funudau rheiny wedi troi'n ddedfryd oes i fi.

Fe af i i'r bedd yn ddynes ansicr, fregus ac anhapus yn fy nghorff fy hun. Rydw i wedi dioddef o anorecsia byth ers hynny, ac wedi treulio cyfnodau yn yr ysbyty. Wnes i fyth ddychmygu y bydden i'n brwydro cyhyd.

Do, cefais fy mrifo'n gorfforol, ond mae'r dolur meddyliol lawer gwaeth. Dyna pam dw i'n teimlo bod angen codi llais.

Ffynhonnell y llun, LLinos Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Llinos Dafydd: "Mae'n rhaid i ni godi llais gyda'n gilydd"

'Dim modd troi llygad ddall'

Dw i'n annog merched (a bechgyn hefyd wrth gwrs) sy'n cael eu treisio i fagu'r nerth, a siarad gyda rhywun yn y lle cyntaf. Does dim cywilydd mewn cael eich treisio. Mae'n beth hollol ofnadwy, a rhaid i ragor fynd at yr awdurdodau. Fel yna mae dod at degwch, a chosbi'r ymosodwyr rhywiol yn llym.

Dw i'n gwybod erbyn hyn nad ydw i'n unigryw, a bod hyn wedi digwydd i filiynau o ferched eraill ar draws y byd. Mae'n rhaid i ni godi llais gyda'n gilydd, a drwy beidio â chadw'n dawel, annog eraill i wneud yr un peth.

Does dim modd troi llygad ddall mwyach. Rydyn ni'n honni bod yn gymdeithas wâr, ond mae treisio merched yn rhywbeth hynod o gyffredin. Rydw i'n nabod gormod sydd fel fi yn cyfaddef yn breifat ond yn ofn siarad yn agored. Ac, yn anffodus, mae gormod o bobl dda yn hapus i'w weld yn cael ei ysgubo dan y carped, rhag iddynt hwy deimlo'n anghyfforddus.

Rhaid i ni ddechrau gwerthfawrogi'r dioddefwyr hynny sy'n cyfaddef ac yn siarad yn blaen ac yn onest am dreisio.

Po fwyaf sy'n fodlon trafod eu profiad nhw, heb boeni am eu diogelwch neu oblygiadau cymdeithasol o'u cyfaddefiad, yr anoddach fydd e i'r un ymosodwyr barhau i dreisio heb gael eu cosbi am eu gweithredoedd.

Mae achos Ched Evans, a'r cyhuddiadau yn erbyn Donald Trump ac eraill, a'r holl drafod ar hynny dros y penwythnos, wedi agor hen grachen boenus iawn. Crachen a fydd gen i, a sawl un arall, am byth.

Y cyfan ydw i eisiau yw bod dim rhaid i neb gario'r un creithiau â ni.