Gwahardd dyn am gadw eryr aur mewn cegin fudr
- Cyhoeddwyd
![Eryr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10CE3/production/_91953886_goldeneaglenowpic1.jpg)
Mae dyn wedi ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd wedi iddo gadw eryr aur mewn cegin fudr.
Roedd Adam Smith o Birmingham, wedi cadw'r aderyn yn y gegin yn Sir Benfro. Cafodd ei ddedfrydu ddydd Llun ar ôl pledio'n euog yn Llys Ynadon Llanelli i droseddu yn groes i Ddeddf Lles Anifeiliaid ar 26 Mai.
Clywodd y llys yn y gwrandawiad blaenorol fod Smith wedi cadw'r eryr mewn cegin fechan mewn fflat yn nhref Penfro, a hynny mewn amgylchedd nad oedd yn lan a diogel i'r aderyn.
Cafodd swyddogion yr RSPCA eu galw ym mis Ionawr 2015 yn dilyn derbyn adroddiadau fod yr aderyn yn cael ei gadw mewn lleoliad amhriodol.
![Cegin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/BEC3/production/_91953884_goldeneaglecaseoct16pic3-2.jpg)
Dywedodd yr Arolygydd Keith Hogben o'r RSPCA: "Roedd hwn yn achos hynod unigryw gan nad ydych yn disgwyl gweld eryr aur mewn cegin. Mae o'n un o'r pethau mwyaf gwallgof i mi ei weld erioed. Doedd dim modd dychmygu'r peth.
"Nid oedd yr amgylchiadau yr oedd yr eryr aur ynddo yn briodol o bell ffordd - roedd bagiau o sbwriel wedi eu gwasgaru ar hyd y llawr ac nid oedd modd i'r aderyn ymestyn ei adenydd i bob cyfeiriad mewn awyrgylch tywyll ag estron iddo.
"Roedd wedi ei gadw mewn amgylchiadau afiach oedd yn gwbl anaddas i unrhyw anifail, heb sôn am eryr aur."
Yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Llun cafodd Smith ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd, a'i orchymyn i dalu dirwy o £73, talu £200 o gostau, a dirwy dioddefwyr o £60. Cafodd 12 mis o orchymyn cymunedol.
Mae'r eryr aur, sydd tua thair neu bedair oed, yn derbyn gofal arbenigol ar hyn o bryd.
![Budreddi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/18213/production/_91953889_goldeneaglecaseoct16pic1.jpg)