Pryder am gost gwella'r A487 yn Niwgwl
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Penfro wedi dweud wrth raglen Newyddion 9 y gallai adeiladu ffordd newydd i bentref Niwgwl a Phenrhyn Dewi gostio hyd at £20m.
Wrth i stormydd ar arfordir y Gorllewin waethygu, mae yna berygl y gallai rhan o ffordd yr A487 ar ei ffurf bresennol gael ei cholli.
Mae yna alwadau ar Lywodraeth Cymru i ariannu'r ffordd newydd.
Mae'r A487 yn Niwgwl yn ffordd gyswllt allweddol, nid yn unig i bobl Niwgwl sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i Hwlffordd, ond hefyd i gymunedau Solfach a Thyddewi ar y penrhyn.
Mae nifer o opsiynau posib wedi eu llunio ar gyfer ffordd newydd: Mae un yn weddol agos at yr heol bresennol ond mewn safle llawer uwch, ac mae opsiynau eraill yn dilyn llwybr mwy ymylol i gysylltu â Phen-y-cwm.
Mae'r Cyngor Sir yn dal i baratoi gwaith ymchwil ar gryfderau a gwendidau'r llwybrau posib.
Ond yn ôl Emyr Williams, peiriannydd i Gyngor Sir Penfro sy'n gyfrifol am amddiffyn y glannau, does gan y Cyngor ddim o'r arian i dalu am y gwaith a bydd yn rhaid trafod gyda Llywodraeth Cymru: "Da ni'n meddwl da ni'n edrych am ryw £20m, ond dy' hwnna ddim mwy na bys yn yr awyr."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Penfro wedi cael arian yn barod i bwyso a mesur opsiynau ar gyfer Niwgwl.
Mi fyddai unrhyw geisiadau pellach am arian yn ddibynnol ar gasgliadau'r astudiaethau hynny.
Fe fydd llwybr terfynol ar gyfer y ffordd newydd yn cael ei chlustnodi erbyn y flwyddyn nesaf, ond fe allai'r llwybr i ariannu'r cynllun fod yn her arall - allai gymryd blynyddoedd lawer.