Llai na 7% yng Nghymru'n byw'n hir wedi canser yr ysgyfaint

  • Cyhoeddwyd
Sganiau
Disgrifiad o’r llun,

Canser yr ysgyfaint yw'r canser sy'n lladd y nifer mwyaf o bobl, yn ôl yr adroddiad

Mae canran y bobl sy'n byw am bum mlynedd neu fwy wedi diagnosis o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru yn llai nac yng ngweddill y DU.

Yn ôl ffigyrau mewn adroddiad gan Gynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU, dim ond 6.6% o ddioddefwyr sy'n goroesi'r salwch yn y tymor hir.

Mae hyn yn cymharu â 9.8% yn yr Alban, 10.5% yng Ngogledd Iwerddon a 16% yn Lloegr.

Mae'r sefydliad yn galw am "welliant sylweddol" gan lywodraethau'r DU i godi'r ganran honno i 25%.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn gweithio ar rai o argymhellion yr adroddiad.

Argymhellion

Mae'r adroddiad yn dweud bod triniaeth canser yr ysgyfaint yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru.

Yn ôl y ddogfen, dim ond 12% o gleifion sy'n cael diagnosis cynnar, a 10% yn unig sydd â mynediad i nyrs arbenigol.

Mae'r adroddiad yn argymell cynnal ymgynghoriad ar Safonau Canser Cenedlaethol Cymru, cynnal adolygiad o wasanaethau diagnosis canser a sicrhau bod nyrs arbenigol ar gael i bob claf ym mhob agwedd o'u gofal

Ond mae'n cydnabod bod "camau sylweddol" wedi eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa yng Nghymru.

Ymateb gwleidyddol

Fe ddywedodd y Ceidwadwyr bod y ffigyrau yn "ddychrynllyd", gan ychwanegu bod angen rhoi mwy o arian ac ystyriaeth i'r strategaeth iechyd cyhoeddus.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod 'na welliannau wedi bod yng nghanran y bobl sy'n goroesi canser yng Nghymru a bod y ganran sy'n byw am flwyddyn wedi diagnosis o ganser yr ysgyfaint hefyd wedi codi.

Ychwanegodd bod y llywodraeth eisoes yn gweithio ar rai o'r argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys "rhoi cefnogaeth i feddygon teulu i adolygu achosion o ganser yr ysgyfaint er mwyn darparu gofal gwell, a chynnal ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol ar symptomau canser yr ysgyfaint."