Cymru'n dewis peidio chwarae yn Stadiwm y Principality
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu peidio chwarae gêm gyfeillgar yn Stadiwm y Principality.
Roedd 'na sôn y gallai Cymru herio un o gewri'r gêm ryngwladol fel yr Eidal neu'r Ariannin yn stadiwm mwyaf y wlad fis Mawrth 2017, a hynny fel rhan o'r paratoadau i gynnal rownd derfynol Cwpan y Pencampwyr yno ddeufis yn ddiweddarach.
Dydi Cymru heb chwarae yn y stadiwm sy'n dal 72,500 o bobl ers 2011.
Cartref y garfan ar hyn o bryd yw Stadiwm Dinas Caerdydd, sy'n dal 33,000 o bobl.
Mae'r rheolwr Chris Coleman wedi dweud ei fod am barhau i chwarae yno, hynny yn sgil llwyddiant diweddar y tîm aeth i rownd gyn-derfynol Euro 2016.