Lansio prosiect hybu addysg pobl ifanc ar ôl gofal
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect newydd yn ceisio ysbrydoli gweithwyr a rhieni maeth i gefnogi pobl ifanc sy'n gadael gofal ar eu taith drwy addysg.
Bydd cynllun 'Be the #1' yn cael ei lansio gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddydd Llun, ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Gadael Gofal.
Cyfres o ffilmiau byr yn adrodd straeon pobl sydd wedi gadael gofal a mynd i'r byd addysg yw canolbwynt y prosiect.
Dywedodd Trystan Rees o'r brifysgol ei fod yn gobeithio y bydd nifer y bobl sy'n gadael gofal ac yn mynd i addysg uwch "yn codi o flwyddyn i flwyddyn" oherwydd y math yma o fentrau.
'Credu yndda'i'
Un ddynes ifanc sydd wedi rhoi ei llais i brosiect 'Be the #1' yw Roxy, 17 o Abertawe.
Dywedodd wrth y Post Cyntaf ei bod wedi mynd i ofal yn Ionawr 2014 yn sgil problemau teuluol, ac wedi byw mewn pedwar cartref gwahanol ers hynny.
Fe ddywedodd bod addysg a chefnogaeth athrawon yn hanfodol i bobl yn ei sefyllfa hi.
"Fi ddim yn gwybod beth bydden i'n gwneud heb fy athrawon," meddai.
"Mae [bod mewn gofal] yn anodd a fi'n gallu deall pam bod rhai pobl yn rhoi lan ar ôl cwpl o symudiadau - mae pob symudiad yn achosi straen, mae pob teulu'n wahanol felly ti'n becso am sut ti'n mynd i gael dy drin, beth yw'r rheolau, wyt ti'n mynd i allu cael dy ffôn, a phethau fel 'na.
"Mae jyst angen un person i helpu rhywun yn fy sefyllfa i - i gredu yndda' i, i gwffio drosta' i."
Fe aeth John sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, i mewn i ofal pan oedd yn dair oed yn sgil marwolaeth ei rieni.
Mae e bellach yn 24 ac athro cyflenwi sy'n astudio cwrs meistr mewn addysg.
Dywedodd wrth y rhaglen mai addysg roddodd hyder iddo, a'i fod wedi "troi ei fywyd wyneb i waered".
Yn ôl Trystan Rees, mae prosiectau fel 'Be the #1' yn cyfrannu at gynnydd yn nifer y bobl sy'n gadael gofal ac yn mynd i addysg uwch.
Dywedodd bod y nifer presennol "ddim yn arbennig o dda", ond ychwanegodd: "Wrth ein bod hi'n parhau gyda phrosiectau fel hyn, cael y straeon 'ma mas, ac yn ysbrydoli pobl, sicrhau bod y person 'na yno i helpu pobl ifanc, dwi'n siŵr y gwneith yr ystadegau godi o flwyddyn i flwyddyn."
Paratoi
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn gosod lefel y gofal a chefnogaeth y dylai pobl sy'n gadael gofal ei dderbyn.
"Rydym am i bob person ifanc sy'n gadael gofal i gael y gofal ymarferol ac emosiynol sydd angen arnynt wrth iddyn nhw anelu at fywyd annibynnol.
"Drwy gydol eu hamser o fewn y system gofal, dylai paratadau ar gyfer yr amser hwnnw fod yn ganolog i'r gofal a'r broses gynllunio.
"Rydym hefyd wedi lansio cynllun 'Pan fyddai'n barod' sy'n galluogi pobl ifanc mewn gofal maeth i aros gyda'u gofalwyr maeth hyd at 21 oed neu 25 oed os ydynt wedi gorffen cwrs addysg neu hyfforddiant sydd wedi cael ei gytuno arno."