Cymry dramor: Angen 'ymdrech pawb' i gael 1m o siaradwyr
- Cyhoeddwyd
Dywed athro sy'n dysgu Cymraeg yng Ngogledd America y dylai cymdeithasau Cymraeg dramor fod yn rhan o darged Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn ôl Antone Minard, athro Cymraeg yng Nghymdeithas Gymraeg Vancouver yng Nghanada, mae'n bwysig i'r llywodraeth "gadw mewn cysylltiad" gyda chymdeithasau Cymraeg tramor.
"Weithiau mae llawer o bobl Gogledd America yn gweld gwerth yr iaith yn gliriach na'r bobl sy'n byw yn y DU," meddai.
"Felly bysa cyfri siaradwyr Cymraeg tu hwnt i Gymru yn ffordd syml o gyflawni'r targed.
"Nid ymdrech un sefydliad yw hybu'r iaith ac annog pobl i ddysgu."
'Cefnogaeth a brwdfrydedd'
Mae David Busey, un o fyfyrwyr gwersi Cymraeg Capel Cymraeg Rehoboth yn yr UDA hefyd yn credu bod cyrraedd y targed yn mynd i gymryd "ymdrechion gan bawb".
"Mae gwneud yr iaith yn boblogaidd yn swydd amhosib i'r llywodraeth ar ben ei hun," meddai.
"Mae angen ymrestru cefnogaeth a brwdfrydedd cymdeithasau i helpu cyflawni'r targed."
"I blant - i wneud y dysgu'n hwyl, i oedolion - i wneud y dysgu'n ymarferol," meddai. "Mae hybu'r iaith angen cynnwys talent ac awydd rhieni, athrawon a gweithwyr ieuenctid."
Cafodd y cyhoeddiad am darged y llywodraeth ei wneud gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ym mis Awst eleni.
Y Cymry Tramor
Ond nid Cymru ydy'r unig wlad sy'n ceisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
Yn ôl adroddiad papurau newydd Ninnau a'r Drych, mae dros 10 o gymdeithasau Cymraeg yng Ngogledd America yn cynnig gwersi Cymraeg.
Er bod y cymunedau yn amrywio ar draws y cyfandir, maen nhw i gyd yn dathlu traddodiadau Cymreig.
Mae Capel Cymraeg Rehoboth yn Delta, Pennsylvania yn un sy'n cynnal gwasanaethau crefyddol a digwyddiadau cerddorol yn y traddodiad Cymraeg.
Yn ogystal â hyn, mae'r dref - ble symudodd miloedd o Gymry yn y 18fed a'r 19eg ganrif - yn cynnal gwasanaethau addoli dwyieithog, gwersi Cymraeg lleol ac wedi ffurfio Côr Cymraeg Rehoboth.
Dywedodd Richard Baskwill, sy'n weinidog yn y capel: "Rydym ni am i'r iaith [Gymraeg] ddychwelyd i'n digwyddiadau, a datguddio ei harddwch i gymaint o bobl ac sy'n bosib.
"Mae'r gwersi wedi creu grŵp o bobl sy'n canu'n hyderus yn y Gymraeg, felly mae 30 gwaith yn fwy ohonynt bellach yn cael blas o'r emynau mewn gwasanaethau a chyngherddau," meddai.
Dywedodd Mr Minard bod nifer dda o siaradwyr rhugl o fewn y gymdeithas.
"Mae 'na nifer o bobl dwi ond yn siarad Cymraeg 'efo, ac mae'n bosib clywed yr iaith ym mron pob un o ddigwyddiadau'r Gymdeithas Cymraeg."
Dywedodd Mr Minard - sydd hefyd wedi cynnal gwersi fel rhan o Wythnos Gymraeg Cymdeithas Madog - bod tua hanner y bobl yn ei ddosbarth wedi'u geni a'u magu yng Nghymru ond heb ddysgu'r iaith yn eu plentyndod. Mae eraill hefo diddordeb ei dysgu.
"Mae'r Gymdeithas wedi bod yn dysgu'r iaith am ddegawdau o leiaf, on and off, ond dechreuais i gynnig gwersi tua thair blynedd yn ôl," meddai.
"Mae'r Gymdeithas am i bobl yng Nghanada wybod bod diwylliant a iaith Gymraeg yn bodoli, ac nid jyst rhan o Loegr yw'r wlad.
"Mae llawer o bobl yma sy'n teimlo'n gryf iawn am bwysigrwydd yr iaith, nid ond i aelodau'r Gymdeithas, ond i'r gymuned."
Y Cwrs Blynyddol
Mae Maria Bartholdi o Gymdeithas Madog, y sefydliad astudiaethau Cymraeg yng Ngogledd America, hefyd yn teimlo'r angen i gadw'r iaith a'r diwylliant yn fyw.
Mae'r gymdeithas yn trefnu cwrs wythnos dysgu Cymraeg yn flynyddol, sy'n cynnwys pum awr o wersi'r dydd, yn ogystal â gweithgareddau Cymraeg yn y nos.
"Ar gyfartaledd, 'da ni wedi derbyn 40 o fyfyrwyr pob blwyddyn ers 2010. Mae gan rhai o'r dysgwyr ddiddordeb yn eu treftadaeth Gymreig ac eisiau cysylltu â'u gwreiddiau - mae rhai yn caru ieithoedd ac eisiau amddiffyn yr iaith trwy ei dysgu."
Mae'r gymdeithas hefyd yn cynnal ysgoloriaethau i bobl sydd am fynychu'r cwrs Cymraeg.
"Y nod yw rhoi lot o Gymraeg i'r myfyrwyr fel bod nhw'n gallu mynd â'u dealltwriaeth gyda nhw a pharhau i ymarfer trwy gydol y flwyddyn," meddai Ms Bartholdi.
Rhai o gymdeithasau Cymraeg Gogledd America
Cymdeithas Madog
Cymdeithas Gymraeg Colorado
Grŵp Cymraeg Washington, DC
Cymdeithas Gymraeg Dewi Sant Minnesota
Cymdeithas Dewi Sant yn Pittsburg
Capel Rehoboth, Delta, Pennsylvania
Cymdeithas Gymraeg Oregon
Awr Sgwrsio, Ottawa, Ontario
Cymdeithas Gymraeg Vancouver
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd12 Mai 2015