Peilonau Môn: AS yn galw ar y Grid i newid eu barn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Albert Owen yn herio cynllun peilonau'r Grid ar Ynys Môn

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi galw ar y National Grid i ailystyried eu bwriad i adeiladu peilonau newydd ar draws yr ynys.

Dywedodd Albert Owen y dylai'r Grid wrando ar farn trigolion lleol a gosod ceblau tanddaearol i gludo trydan yn lle hynny, fel sydd wedi digwydd mewn ardaloedd eraill.

Cafodd ymgynghoriad diweddaraf y Grid ei lansio ar 10 Hydref, a bydd yn para am ddeg wythnos.

Pwrpas y peilonau newydd yw cludo trydan o ddatblygiadau ynni'r ynys, gan gynnwys gorsaf bŵer niwclear arfaethedig Wylfa Newydd.

Mae'r National Grid eisoes wedi dweud y bydd llwybr y peilonau newydd yn gyffredinol yn rhedeg gyfochr â'r peilonau sy'n bodoli'n barod ar hyd yr ynys a gogledd Gwynedd.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn pobl am ychwanegu at faint is-orsafoedd Wylfa a Phentir, ynghyd â gwaith ar y twnnel fydd yn cludo'r trydan o dan y Fenai.

Ffynhonnell y llun, Google/National Grid
Disgrifiad o’r llun,

Llwybr arfaethedig y National Grid ar gyfer y peilonau

Ond mae'r ymgyrchwyr yn anhapus mai'r unig opsiwn sydd yn cael ei gynnig yw i adeiladu peilonau newydd ar draws yr ynys, yn hytrach na defnyddio ceblau tanddaearol i gludo'r trydan.

Dywedodd cadeirydd pwyllgor ymgyrchu ar ran cynghorau tref a chymuned Môn, Dafydd Idriswyn Roberts: "Mae unigolion bellach yn teimlo wedi eu gorthrymu gan y Grid wrth weld hyfdra'r cwmni yn anwybyddu barn pobl Môn gan barhau gyda'r cynlluniau i godi mwy o beilonau."

Ychwanegodd Mr Roberts na ddylai'r Grid ddiystyru'r opsiwn o osod ceblau tanfor neu danddaearol os oedden nhw eisoes wedi gwneud hynny mewn llefydd eraill.

"Os yw'r opsiynau eraill yn ddigon da i ardaloedd eraill megis Llundain a'r Wirral, yna rydym ninnau'n disgwyl yr un parch at ein hamgylchedd pwysig ni ym Môn," ychwanegodd.

'Gwallgofrwydd'

Un o brif bryderon yr ymgyrchwyr yw'r effaith posib ar ddiwydiant twristiaeth yr ynys.

Dywedodd Stan Zalot, cynghorydd tref ym Miwmares: "Mae Ynys Môn yn dibynnu mwy ar dwristiaeth nag unrhyw ardal arall ym Mhrydain, felly gwallgofrwydd yw codi mwy o beilonau a difetha'r dirwedd drawiadol sy'n denu gymaint o dwristiaid i'r ynys."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gynhaliodd yr ymgyrchwyr brotest ym mis Mai yn galw ar y Grid i ailystyried

Dywedodd Albert Owen ei fod eisoes wedi cwrdd â'r Grid, gan annog trigolion yr ynys i leisio'u gwrthwynebiad i'r cynlluniau fel ag y maen nhw.

"Mae'n rhaid i'r National Grid newid eu barn, ailedrych, a'i wneud o dan y tir," meddai. "Maen nhw'n gwneud o mewn un rhan o Brydain, mae'n rhaid iddyn nhw edrych i wneud o dros Sir Fôn.

"Mae'r gost yn fawr, ond mae'n brosiect mawr hefyd. Ar ddiwedd y dydd, pobl Prydain fydd yn cael y trydan, felly pobl Prydain dw i eisiau i dalu am hwn."

Mynnodd pe na bai'r Grid yn newid eu meddwl yn dilyn yr ymgynghoriad, y byddai'n ystyried herio'u cynlluniau drwy apelio at y llywodraeth yn San Steffan.

"Mae pobl Ynys Môn yn glir... eu bod nhw eisiau iddo fynd o dan y tir, mae hynny'n glir iawn," meddai.