Pobl traws: Aros hyd at bedair blynedd i weld arbenigwr
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon am wasanaethau sydd ar gael i bobl trawsryweddol yng Nghymru, gyda rhai yn aros hyd at bedair blynedd cyn gweld arbenigwr.
Ar hyn o bryd does gan Gymru ddim Clinig Hunaniaeth Rywedd, felly mae pobl yn cael eu cyfeirio at glinigau arbenigol yn Llundain.
Ond mae ymgyrchwyr yn dweud bod rhai yn prynu hormonau ar y we am eu bod yn gorfod disgwyl cyhyd cyn gweld arbenigwr.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd £1m o arian ychwanegol yn gwella gwasanaethau.
Cafodd yr arian, fydd yn cael ei glustnodi ar gyfer darpariaeth anhwylderau bwyta a hunaniaeth rywedd, ei gyhoeddi wythnos diwethaf fel rhan o'r gyllideb ddrafft.
'Ddim yn gallu bod yn onest'
Mae Rowan, 17 o Benarth, yn fenyw trawsryweddol ac fe aeth hi at ei meddyg teulu ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd: "Doedd gen i ddim ffrindiau am gyfnod hir o achos o'n i yn teimlo mod i methu uniaethu gyda phobl.
"Am fod gen i ddim y cysylltiadau yna a ddim yn gallu mynegi fy hun yn y ffordd o'n i eisiau mi es i yn reit isel fy ysbryd.
"Wrth edrych yn ôl fe allai weld fod y problemau oedd gen i fel yr iselder a'r gor bryder... roedden nhw yn deillio o'r ffaith mod i ddim yn gallu bod yn onest."
Mae Rowan angen hormonau tra ei bod hi'n disgwyl i gael triniaeth. Fe all y meddyg teulu rhoi'r rhain iddi ond mae'n bosib hefyd eu prynu nhw ar y we.
Yn ôl ei mam, Ceri Lambert fe wnaeth hi ystyried eu prynu i'w merch am ei bod hi'n teimlo'n "ddiymadferth".
"Os ydych chi yn fodlon talu a ddim yn gofyn gormod o gwestiynau ynglŷn ag o le maen nhw'n dod, mae nifer o bobl yn dewis y llwybr yna," meddai.
"Rydych chi yn gweld eich plentyn mewn cymaint o strach a does dim byd yn digwydd ac rydych chi yn teimlo mor ddiymadferth. Do fe es i ar y we a meddwl, a ddylen ni wneud hyn ar gyfer fy mhlentyn?"
Datblygu canllawiau
Mae'r meddyg teulu Helen Webberley, sy'n arbenigo mewn rhoi gofal i bobl trawsryweddol, yn dweud bod hi'n "hanfodol" bod pobl yn cael y driniaeth gywir cyn gynted ag sy'n bosib.
Dywedodd bod rhai yn cael eu rhoi ar dabledi iselder sydd ddim yn datrys "gwraidd y broblem".
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru eu bod yn datblygu llwybr cywir ar gyfer hunaniaeth rywedd a chanllawiau ar gyfer gweithwyr iechyd:
"Diben y gwaith, sydd yn cael ei arwain gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, yw gwneud yn siŵr bod pobl trawsryweddol a darparwyr y gwasanaeth iechyd yn glir ynglŷn â pha wasanaethau ddylai fod ar gael," meddai'r llefarydd.
Mae'r manylion ynglŷn â sut y bydd £1m o nawdd yn cael ei rannu wrthi yn cael ei benderfynu, ac mae disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud "cyhoeddiadau pellach yn y dyfodol agos".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2016