Perygl i Ombwdsmon Cymru gael ei 'adael ar ôl'
- Cyhoeddwyd
Mae perygl y bydd Cymru yn cael ei "gadael ar ôl" i gymharu gyda rhannau eraill o Ewrop oni bai bod yr Ombwdsmon yn cael mwy o bwerau, yn ôl yr Ombwdsmon Catalanaidd, Rafael Ribó.
Dywed Señor Ribó bod angen i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett gael yr hawl i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun gyda'r "adnoddau sydd ei angen arno i amddiffyn hawliau pobl".
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn craffu ar fesur fyddai'n rhoi pwerau ychwanegol i'r Ombwdsmon yn y gorffennol ac fe allai dal gael ei ystyried.
Mae Nick Bennett wedi bod yn gwthio i gael y pwerau yma ac yn croesawu sylwadau Rafael Ribó.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y pwyllgor cyllid yn edrych eto ar y mesur.
Daw sylwadau Rafael Ribó, sydd hefyd yn Llywydd Ewropeaidd Sefydliad Rhyngwladol yr Ombwdsmyn, cyn seminar sydd yn cael ei gynnal rhwng y sefydliad hwnnw a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru.
Ar hyn o bryd does gan yr Ombwdsmon yng Nghymru ddim y grym i ymchwilio i gwynion gan gleifion ysbytai a chlinigau preifat oni bai bod y driniaeth honno wedi ei ariannu gan y gwasanaeth iechyd.
Angen gweithredu
Byddai pwerau newydd yn golygu y byddai yn gallu gwneud hyn ac, ymysg pethau eraill, dderbyn cwynion ar lafar.
Dywedodd Rafael Ribó y dylai Cymru "groesawu arfer gorau o bob rhan o Ewrop" ac mae'n rhybuddio bod yn rhaid i Gymru wneud mwy:
"Mae deddfwriaeth gyfredol yr Ombwdsmon yng Nghymru yn uchel ei pharch o hyd, ond, yn fy marn i, mae'n bryd darparu pwerau newydd i sicrhau nad yw Cymru yn cael ei gadael ar ei hôl."
Ychwanegodd: "Mae Ombwdsmyn bellach yn cynrychioli cyfle sefydliadol i adnewyddu democratiaeth.
"Yn ddiweddar mae rôl yr Ombwdsmyn wedi tyfu oherwydd y cysyniad bod angen amddiffyn hawliau yn ogystal â'r cyfrifoldebau newydd a roddwyd iddynt."
Mae Nick Bennett wedi dweud mai nawr yw'r amser i gael y pwerau newydd: "Rydw i wrth fy modd o gael cefnogaeth ein partneriaid Ewropeaidd.
"Cyn neu ar ôl Brexit, a waeth beth fydd perthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, rydw i'n benderfynol ein bod yn parhau i fabwysiadu arferion gorau o bob rhan o'r cyfandir a'r byd i gyd."
Os fydd y mesur yn dod yn ddeddfwriaeth fe fydd y ddeddf yr un cyntaf o'i fath ers i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei sefydlu.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Unwaith y bydd y pwyllgor cyllid wedi edrych eto ar y mesur drafft fe fyddwn ni yn edrych ymlaen at ei drafod ymhellach."