'Dysgu byw gydag e'
- Cyhoeddwyd
Mae Hydref wedi bod yn fis i godi ymwybyddiaeth o golli plant yn y groth a babanod marw-anedig. Bu Cymru Fyw yn siarad ag un rhiant sydd wedi bod drwy'r profiad hwnnw.
Mae'n bwysig bod ei merched yn tyfu i fyny yn gwybod y bu ganddyn nhw frawd, yn ôl Ffion Davies.
Mae bron i bum mlynedd ers i'r fam o Henllan, ger Llandysul, roi genedigaeth i Caleb Rhys yn farw-anedig.
Nawr mae hi eisiau codi ymwybyddiaeth er mwyn annog eraill i fod yn fwy agored ynglŷn â'r profiad sy'n effeithio ar gynifer o deuluoedd.
"Dim ond tair wythnos oedd i fynd tan i'n ail blentyn gyrraedd y byd," meddai, wrth gofio'n ôl i ddyddiau olaf ei beichiogrwydd â Caleb.
"Doedd pethau ddim cweit yn teimlo'n iawn, dim cymaint o symudiad a chicio, ond oedd rhaid i fi gario 'mlaen achos roedd diwrnod prysur o 'mlaen i, a wnes i anwybyddu'r teimlad."
Cyn hynny, roedd y beichiogrwydd wedi mynd fel wats, meddai. Gyda'i phlentyn cyntaf, Celyn, bu mewn ac allan o'r ysbyty yn gyson yn ystod y mis olaf.
Yn y diwedd, penderfynodd ffonio'r fydwraig, ac fe aeth hi i'r ysbyty am brofion pellach.
"Ar ôl i amryw o ddoctoriaid a nyrsys edrych arna i, ges i wybod y gwaethaf. Aeth popeth yn bach o blur ar ôl hynny," meddai Ffion Davies.
"O'n i byth yn meddwl y byddai hyn wedi digwydd i fi. Mae popeth yn digwydd i bobl arall, on'd yw e?"
Cafodd fynd adre' am ddau ddiwrnod, cyn dychwelyd i eni'r babi ar 12 Rhagfyr 2011.
Cofio Caleb
Er iddo farw cyn dod i'r byd, mae Caleb yn dal yn rhan fawr o'i bywyd, meddai, ac yn rhan o fywyd ei merched Celyn, saith, a Cari, sy'n ddwy a hanner, hefyd.
"Mae mor bwysig i fi bod Celyn a Cari yn tyfu lan gan wybod bod gyda nhw frawd," meddai. "Ni'n mynd lan i'r bedd gyda'n gilydd, a rhoi blodau.
"Mae Cari'n rhy ifanc i ddeall eto, ond mae Celyn yn dwlu edrych mewn i focs bach Caleb a ddaeth o'r ysbyty. Mae'n cynnwys tedi, olion traed a dwylo Caleb, darn bach o'i wallt, blanced a thaflenni.
"Roedd yr holl staff a ddeliodd gyda ni yn Ysbyty Glangwili yn anhygoel. Allen i ddim fod wedi gofyn am well, a dw i'n dal i gofio eu henwau. Ro'n nhw mor broffesiynol.
"Gafon ni amser i fod gyda Caleb - cymaint ag o'n i eisiau, a chyfle i dynnu lluniau, paentio traed, ei wisgo fe a'i fagu.
"Gethon ni ddim post-mortem. Oedd e wedi marw yn y groth, ond ein penderfyniad ni oedd peidio ffeindio mas. Dw i'n gwybod nad oedd e'n fyw. Ond do'n ni ddim yn lico'r syniad a hala fe drwy hynny."
Clust i wrando
Er yr holl gefnogaeth, mae colli babi dal i fod yn bwnc anodd i bobl amgyffred ag e, meddai.
Weithiau, mae'n gallu bod yn sefyllfa unig ac annifyr pan nad oes clust i wrando.
"Dw i'n cofio mynd i'r dref i wneud ychydig o siopa Nadolig tua wythnos a hanner ar ôl colli Caleb," meddai.
"Do'n i ddim eisiau mynd ond ro'n i eisiau'r Nadolig gorau i Celyn. Weles i rywun o'n i'n ei hadnabod yn y pellter, a sylwi ei bod hi wedi fy ngweld i, ond fe aeth hi'r ffordd arall.
"Roedd hynny'n torri fy nghalon. Ond dw i ddim yn grac ac yn gweld bai ar neb. Efallai y byddwn i wedi bod yr un peth. Mae'n bwnc anodd i'w drafod.
"Sa i'n meddwl dylai pobl gadw'n dawel. Dim ond ar ôl i ni golli Caleb ddes i wybod am golledion rhai o bobl eraill yr ardal. Doedd dim syniad gen i cyn hynny eu bod nhw wedi colli babis.
"Bydden i'n dweud wrth y rhai sy'n trio ymdopi a dod i delerau gyda'r golled, a'r galaru, i beidio â chuddio yn y tŷ. Peidiwch â theimlo eich bod chi ar eich pen eich hunain."
Dal i fynd
Yn ogystal â cholled Caleb, mae hi wedi colli sawl babi yn y groth, meddai.
"Gollais i fabi yn gynnar iawn ar ôl geni Celyn, cyn iddi droi'n flwydd oed. Yna eto'n ddiweddarach, gollais i ddau fabi yn y groth cyn cael Cari. Y cyfan yn y dyddiau cynnar, cyn 12 wythnos."
Ond mae hi, a'i gŵr, Eulan, yn cyfrif eu bendithion. Dywed bod eu hagwedd nhw at fywyd wedi newid yn llwyr, ac nad ydyn nhw'n cymryd dim yn ganiataol.
"Y merched yw'r peth pwysicaf i fi ac Eulan, a dw i'n mwynhau bob eiliad o fod yn fam i'r ddwy," meddai Ffion.
"Sa i cweit yn siŵr sut fydden i'n ymdopi hebddyn nhw a fy ngŵr i. Dw i'n teimlo'n lwcus iawn ein bod ni'n rhieni i ddwy o ferched, a rhaid bod mor ddiolchgar am hynny.
"Wrth i amser fynd yn ei flaen, dw i'n trio dysgu byw gydag e. Ond mae ei ben-blwydd e'n dod lan, a dw i'n teimlo gymaint o wahanol emosiynau.
"Dw i'n teimlo'n grac, achos dylen ni fod yn dathlu, gydag e yma hefyd. Dim mynd lan i'r bedd i roi blodau. Ond rhaid palu mlaen yn dawel bach."
Stori a lluniau: Llinos Dafydd