Gorwario'r byrddau iechyd yn golygu arian ychwanegol

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty

Bydd mwy 'na £68m yn cael ei ychwanegu at gyllideb y gwasanaeth iechyd er mwyn delio gyda'r gorwario mewn dau fwrdd iechyd.

Fe wnaeth yr ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford y cyhoeddiad ddydd Mercher.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i lenwi'r bylchau a gafodd eu hachosi gan orwariant Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda yn y flwyddyn ariannol yma.

Bydd yr arian yn dod o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion wedi dechrau cynllunio Cyllidebau Byrddau Iechyd lleol ar gyfer cyfnod o dair blynedd yn dilyn beirniadaeth bod y llywodraeth yn gyson yn gorfod rhoi arian ychwanegol i'r byrddau iechyd.